Gyfeillion, mae'r aros wedi dod i ben - mae rhifyn 4 ffansin diwylliant Cymru, Siarc Marw, allan!
Mae'r rhifyn yma yn cynnwys:
Cyfweliad gyda Nei Karadog am y criw hip hop, Y Diwygiad
Sgwrs gyda Owen Martell am albym diweddara y band arbrofol, Traw, gyda'r telynor Rhodri Davies
Cyfweliad gyda Sion Mali - cyfarwyddwr ifanc y ffilm 'Sampli' sy'n gofyn beth sy'n gyrru creadigrwydd pobl yng Nghymru
Erthyglau ar Prosiect 9, cwmni datblygu theatr newydd; Glyn ac Imogen, a'u helyntion ar Big Brother; a'r adolygiadau arferol o bob dim dan haul.
A fel pe tai hyny ddim yn ddigon, ry'n ni 'di creu CD amlgyfrannog i'w dosbarthu gyda'r 100 copi cynta' - sy'n cynnwys llwyth o'n hoff artistiaid Cymraeg ni, megis Jakokoyak, Cate Le Bon, Gareth Bonello, Chwain a Cowbois Rhos Botwnnog. Ry'n ni'n rhy garedig, wir!
A faint sy' rhaid talu am y fath ddanteithion llenyddol a chlywedol? £20, medde chi? Is! £15? Is! £5? Is! £2? www, ym, 'bach mwy na 'nny... bargen am £2.50, ac mi gewch chi gusan gan y Gwahanglwyf am ddim.
Er mwyn bachu copi, dewch i stondin Dan y Cownter yn yr Eisteddfod a gofyn i bobl hynaws Sebon lle mae'r siarcod yn cuddio, neu holwch fi neu Gwahanglwyf Dros Grist. Bydd 'na gopiau cyfyngedig ar gael trwy wefan Sebon hefyd, ond bydd rhain yn £3.50, gan gynnwys post a bubble wrap.
Os hoffech chi gael copi o'r cychgrawn yn unig, am ddim, gyrrwch nodyn i siarcmarw AT yahoo DOT co DOT uk
Welwn ni chi'n 'Steddfod