Pa fath o bysgodyn ydi hwn? (Angen help)

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Pa fath o bysgodyn ydi hwn? (Angen help)

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 15 Awst 2006 9:39 am

Mae fi a gwiriongyfaill o Fodedern wedi bod yn cega ers wythnosau am ba fath o bysgodyn ydi'r hwn bysgodyn (un diweddar 'di hwn bu imi ddal ddoe, dani 'di dal mwy a dal methu cytuno ar beth ydyw). Dw i o'r farn gryf mai Sea Bass ydyw, a fyntau'n dyweud Coley. Rydym yn flin iawn efo'n gilydd am ein diffyg dealltwriaeth o bysgod.

Allith rhywun ddweud pwy sy'n iawn, os rhywun o gwbl, a rhoi'r mater i'w fedd?

Delwedd

Delwedd
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Fatbob » Maw 15 Awst 2006 9:57 am

Dwi bron yn siwr taw nid Bass yw e - ma nhw gan amla yn liw arian, ac yn fwy hir yn hytrach na thew. Ma cwpwl o lunie ar waelod y dudalen ma.

Dim syniad os taw Coley yw e neu beidio, erioed di gweld Coley heb iddo fe gael i fillet-o.

Lle ddales ti fe? Ar gwch ar y môr?
How many times do I have to tell you? You don't put a bra in a dryer! It warps!
Rhithffurf defnyddiwr
Fatbob
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 478
Ymunwyd: Maw 21 Hyd 2003 1:38 pm
Lleoliad: Yn y peiriant golchi.

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 15 Awst 2006 10:35 am

Oddi-ar greigiau ger Caergybi.

Dw i'n hollol sicr na nid coley ydyw, de. Beth sy'n gwneud imi feddwl mai Bass ydi o ydi ei siap a'r pigau (sy'n siarp ac yn blydi brifo) am ei gefn a lle mae ei esgyll, er fe wn i bod bass yn dueddol o fod yn ariannaidd.

Ma'n fy ngwylltio i beth bynnag ydi'r bastad.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Llefenni » Maw 15 Awst 2006 10:40 am

Ym... os da chi wedi bod yn cega ers wythnosau, dio'm di mynd i'ch boliau chi neu be? Be oedd o'n blasu fel :?: Os Bass, felly bass ydyw :syniad:
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Postiogan Norman » Maw 15 Awst 2006 11:00 am

be am hwn : "FISH IDENTIFICATION" !!
allan o afal dy gyrraedd dychmygol
|
Chwyliwch amdanai ar Flickr, YouTube, Ebay, Facebook, MySpace, Fotopic & Strydoedd Caerdydd!
Rhithffurf defnyddiwr
Norman
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1335
Ymunwyd: Mer 10 Medi 2003 6:44 pm
Lleoliad: Porthmadog/Caerdydd

Postiogan gwallt blonde » Maw 15 Awst 2006 11:12 am

neu edrych ar hwn am syniadau...........


http://www.fishing.visitwales.com/fe/de ... 141&n3=143
gwallt blonde
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 110
Ymunwyd: Gwe 25 Chw 2005 8:34 pm
Lleoliad: Gogledd

Postiogan Ramirez » Maw 15 Awst 2006 11:15 am

Onid Gwrachen ydyw? Wrasse yn yr iaith fain, dwi'n meddwl.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Postiogan gwallt blonde » Maw 15 Awst 2006 11:17 am

edrycha Ballan Wrasse i fyny neu Wrasse
gwallt blonde
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 110
Ymunwyd: Gwe 25 Chw 2005 8:34 pm
Lleoliad: Gogledd

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 15 Awst 2006 11:21 am

Llefenni a ddywedodd:Ym... os da chi wedi bod yn cega ers wythnosau, dio'm di mynd i'ch boliau chi neu be? Be oedd o'n blasu fel :?: Os Bass, felly bass ydyw :syniad:


Do, f'un i. Diawl o lot mwy fel bass na coley mi wn hynny, ond eto ddim yn hollol bass-ey (ond efallai bod hwnnw i lawr i'r ddull o goginio wn i ddim de).

Diolch am y dabl, Norman!

Delwedd

Bass 'di hwnnw, Cuckoo Wrasse 'di hwn

Delwedd

sef...

Delwedd

Felly mai'n rhaid 'ma Wrasse ydi o? Sef pysgodyn na wyddwn ei bodolaeth a dweud y gwir ichwi. Gobeithio ar y diawl bod nhw'n fwytadwy...
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Cardi Bach » Maw 15 Awst 2006 12:20 pm

o'n i'n meddwl mai un o'r 'breams' odd e, ond rili sdim syniad da fi achos wy'n dwp fel slej pan fo'n dod i bysgod - er bo nw'n beth ffein ar diawl i fyta.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Nesaf

Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 31 gwestai

cron