Mae ymatebion wedi'u hanfon gan nifer o sefydliadau i gynnig Alun Pugh i ddod â swyddogaethau Cyngor Celfyddydau Cymru et al o dan gylch gorchwyl Llywodraeth y Cynulliad. Cliciwch yma i'w darllen (yn Saesneg yn bennaf).
Da o beth yw gweld eu bod i gyd yn beirniadu'r cynllun yn hallt. Sut all Alun Pugh ddweud bod gweision sifil sydd yn aml wedi gweithio mewn sawl maes gwahanol yn fwy cymwys ac addas i lywodraethu ar faterion y celfyddydau yng Nghymru na'r rheiny sydd wedi treulio'u gyrfa yn delio â'r materion hyn?