Yn 88 oed bu farw'r arlunydd Syr Kyffin Williams.
Roedd wedi bod yn diodde o gansyr ers blynyddoedd ac yn ddi-os fe oedd arlunydd Cymreig mwya enwog ei oes.
Bu farw mewn cartre nyrsio ar Ynys Môn.
Mae'n cael ei gofio'n benna am ei luniau tywyll o arfordiroedd Ynys Môn a mynydd-dir Eryri ac am eu bortreadau grymus.
Yn un o arlunwyr mwyaf poblogaidd Cymru, newidiodd hanes celf yng Nghymru yn yr 20fed ganrif.
Cafodd ei eni ym Mai 1918 yn Llangefni, Ynys Môn yn fab i deulu o ffermwyr cefnog. Fel llawer o blant teuluoedd cefnog yr ardal, cafodd ei addysg gynnar yn Ysgol Fonedd yr Amwythig.
http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_5300000/newsid_5305700/5305794.stm