gan Waldo » Maw 12 Medi 2006 4:01 pm
Wnes i astudio Macbeth yn yr ysgol a chasau pob munud. Roedd rhaid canolbwyntio ar ystyr 'uwchnaturiol' y ddrama e.e. y gwrachod a'r ysbrydion, yn lle ar eirfa a barddoniaeth y peth.
Flynyddoedd wedyn, welis i Romeo a Juliet yn ngardd un o golegau Rhydychen, ac ers hynny, dwi wedi gwirioni ar Shakespeare. Wedi crio i'r Tempest, fy ffieiddio gan Richard III, fy nghythruddo gan Julius Caesar, a'r cyfan oherwydd y sgwennu teimladwy. Ydi, mae'n anodd ar y cychwyn, ond mae'r eirfa'n cyfoethogi, yn gwobrwyo ac yn hudo unrhywun sydd ag ychydig o grebwyll.
O ran ei gyfieithu i'r Gymraeg, yn bersonol, dwi'n meddwl y buasai llawer o'r farddoniaeth yn cael ei golli. Ar y llaw arall, alla i ddim darllen Lorca, Proust na Dostoyevesky yn y gwreiddiol, felly buasai cyfieithiad Cymraeg da yr un mor fuddiol ac un Saesneg.
Ac i'r Rhech Fach Flin? "All our yesterdays have but lighted fools the way to dusty death..."
Pa eisiau dim hapusach na byd yr aderyn bach?