Chwilio am ddrama

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Chwilio am ddrama

Postiogan fela mae » Maw 12 Medi 2006 6:03 pm

Ar fy mlwyddyn ola yn astudio theatr a'r cyfyngau ac fel rhan o fy astudiaeth unigol dwi'n gorfod actio drama gymraeg. Dwi felly yn chwilio am ddrama i'w berfformio sydd wedi'i sgwennu yn nhafodiaith deheuol sydd heb ormod o gymeriadau ( Dim ond 2 arall sydd ar ol yn gwneud y cwrs yn fy mlwyddyn! ). Os da unrhwyun syniadau ?
wyt ti'n fy herio i y Meri Jen ??
Rhithffurf defnyddiwr
fela mae
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 504
Ymunwyd: Sul 26 Hyd 2003 3:06 pm
Lleoliad: Penrhyn-Coch, Bangor

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Maw 12 Medi 2006 6:53 pm

siawns bod rhywun sy ar ei flwyddyn ola yn astudio theatr yn gwbod am ddramau.... :?
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Postiogan fela mae » Maw 12 Medi 2006 10:45 pm

falle ma da o beth i chi yn y dyfodol iw darllen negeseuon cyn ymateb iddynt mewn modd mor holl wybodus

Dw i wedi darllen a gwylio nifer helaeth o ddramau. Ond gwelaf bod prinder dramodwyr yn ysgrifennu mewn tafodiaith deheuol.

Gofyn oeddwn i am syniadau - mae gen i fy syniadau fy hun ond roeddwn eisiau awgrymiadau eraill

Mae'n siwr bod rhywyn sydd mor hyddysg a gwybodus fel chi ddim yn gwybod am bob ddrama sydd wedi'i sgwennu yn y gymraeg.

Dyma'r fath o ymatebion dwi'n ei gasau ar maes-e.
wyt ti'n fy herio i y Meri Jen ??
Rhithffurf defnyddiwr
fela mae
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 504
Ymunwyd: Sul 26 Hyd 2003 3:06 pm
Lleoliad: Penrhyn-Coch, Bangor

Postiogan Y Crochenydd » Mer 13 Medi 2006 7:22 am

Pam na wnei di ofyn i Sgript Cymru?Mae ganddynt gasgliad reit fawr o ddramau cyfoes Gymraeg. Neu gyfieithu/addasu rhywbeth? Pob lwc, beth bynnag... http://www.sgriptcymru.com/
Y Crochenydd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 195
Ymunwyd: Sad 12 Tach 2005 6:44 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Cymro13 » Mer 13 Medi 2006 8:11 am

Ma "I" yn ddrama i jest 2 o bobl a be dwi'n gofio mae e mewn acen deheuol

Y Cinio Drama nath Emyr Wyn neud pan odd e'n typecast i Dai Sgaffalde. Ma hwnna i 5 o actorion

Epa yn y parlwr Cefn - Fi'n meddwl fod hwnna mewn acen De Cymru hefyd
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Postiogan Jeni Wine » Mer 13 Medi 2006 9:25 am

Cymro13 a ddywedodd:Ma "I" yn ddrama i jest 2 o bobl a be dwi'n gofio mae e mewn acen deheuol

Y Cinio Drama nath Emyr Wyn neud pan odd e'n typecast i Dai Sgaffalde. Ma hwnna i 5 o actorion

Epa yn y parlwr Cefn - Fi'n meddwl fod hwnna mewn acen De Cymru hefyd


Ma rhain i gyd ar gael gan Sgript Cymru i'w prynu (ac ar Amazon dwi'n tybio hefyd). Ma "i" yn briliant o ddrama. Cyfieithiad ydi hi cofia.

Geraint Lewis sgwennodd Y Cinio a Sion Eirian sgwennodd Epa yn y Parlwr Cefn. Mae'n siwr dy fod ti wedi clywed amdani. Ynglyn a chriw o ffrindia sy'n buteiniaid. Yn bersonol, dwi ddim yn rhy keen o bortread yr awdur o ferched ond mae werth i ti gael cip.

Be am ddarn o Shinani'n Siarad (addasiad Sharon Morgan o Vagina Monologues)? Neu wyt ti'n gorfod gwneud drama gyfan?

Swn i'n argymell dy fod yn cysylltu efo Arwel Gruffydd, Rheolwr Llenyddol Sgript Cymru i grafu ei ben o ymhellach.
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Postiogan Ray Diota » Mer 13 Medi 2006 9:34 am

Jeni Wine a ddywedodd:Shinani'n Siarad (addasiad Sharon Morgan o Vagina Monologues)


:o

Shinani!?

:lol:


Hei, bois, ma hi'n wall to wall shinani mewn fan hyn! :lol:

Ow, ffacinel, nachi fy nwrnod i wedi'i wneud! :D
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Postiogan mam y mwnci » Mer 13 Medi 2006 9:39 am

Mae 'hollti blew' yn gyfieithiad o 'a resounding tinckle' wedi ei drosi gan T.James Jones.

3 cymeriad: Gwr , gwraig a ewythr sy'n traws-wisgo (merch nath chwarae y darn pan natho ni berfformio) comedi ydi ac yn ddoniol iawn iawn.

Acen Castell newydd forna ydi hi.
"Mae'n fler a does 'run seren
heno i mi uwch fy mhen,
dwi'n geiban,ond yn gwybod
mai yma wyf inna i fod.
Rhithffurf defnyddiwr
mam y mwnci
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 975
Ymunwyd: Mer 30 Gor 2003 8:48 pm
Lleoliad: Dre

Postiogan Jeni Wine » Mer 13 Medi 2006 10:24 am

Ray Diota a ddywedodd:
Jeni Wine a ddywedodd:Shinani'n Siarad (addasiad Sharon Morgan o Vagina Monologues)


:o

Shinani!?

:lol:


Hei, bois, ma hi'n wall to wall shinani mewn fan hyn! :lol:

Ow, ffacinel, nachi fy nwrnod i wedi'i wneud! :D


Welis ti mo'r sioe, Ray? Roedd hi'n WYCH. Sharon Morgan wedi bod o gwmpas Cymru yn holi pobl be mae nhw'n ddeud am "cont". Mi oedd na rai hileriys, camfflobatshen etc. hehe
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn


Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 18 gwestai