Dyma edefyndoniol ar wefan y Guardian yn dilyn erthygl John Sutherland yn G2 ddoe sy'n awgrymu nad yw holl waith Shakespeare yn wych.
Mae pobol yn cynnig pa weithiau o fri sy'n over-rated. Cytuno be' maen nhw'n weud am Lost in Translation ac Eternal Sunshine of the Spotless Mind... ond Joyce, Yeats, Conrad, Brontës, Picasso? Beatles a Tracey Emin sy'n ei chael hi fwya'...
Pa gampweithiau/llenorion/cerddorion/sêr o ddiwylliant y Cymry sy' ddim yn haeddu'r clod a'r bri yn eich barn chi?