Pan oni'n fach arferai fy nhad ddweud straeon am y gwnigan fawr wrthyf i. Trigai'r wningan fawr ar y clogwyn uwch ben y pentref. Roedd yn greadur eitha dychrynllyd, gwningan anferth carnivorous maint llo. Gadawai olion ar ei hol megis waliau cerrig wedi cwympo lle safai a siapiau yn y rhedyn.
Yn ddiwedar oni'n digwydd siarad efo rhywun yn steddfod neu sesiwn fawr a ddywedodd ei fod yntau hefyd yn gwybod straeon am y gwningan fawr ond gwrthododd ymhelaethu.
Mae'n rhaid i fi ofyn a oes rhywun arall yn gwybod am hynt a helynt y wningan fawr?