Ydi gwisgo oriawr wedi mynd yn hen beth?

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Ydach chi'n gwisgo oriawr?

Daeth y pôl i ben ar Mer 08 Tach 2006 10:33 pm

Ydw
25
60%
Na
17
40%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 42

Postiogan xGeshaPwy?!x » Llun 30 Hyd 2006 5:34 pm

Dwi ar goll heb watsh, a mi faswn i'n flin drw'r dydd taswn i wedi anghofio hi...ac yn teimlo y basa pob dim yn mynd o chwith hebddi!! :? Dwi di gwisgo un ers pan onin ddeg ne lai dwin siwr, a fedrai yn fy myw neud heb run!
Rhithffurf defnyddiwr
xGeshaPwy?!x
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 65
Ymunwyd: Sul 29 Ion 2006 10:01 pm
Lleoliad: Tre'r Ci Gwyllt!

Postiogan Mali » Llun 30 Hyd 2006 6:00 pm

Finna hefyd.Yn gwisgo un bob dydd.
Mae gen i ffôn symudol , ond tydio ddim ymlaen gen i drwy'r adeg ,felly yn dda i ddim i gymeryd lle yr oriawr.
Wedi symud y clociau yn ôl dros y penwythnos ....wel oni bai am yr un sy'n y fan . Ydio'n wir na ddylie ni symud clociau yn ôl o gwbwl , ond yn hytrach eu symud ymlaen ? Rhywbeth i'w wneud efo'r gwneuthuriad o bosibl? :?
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan sian » Llun 30 Hyd 2006 8:31 pm

Gwen a ddywedodd:Ydi Dawn Cyfarwydd ac Anffodus yn deud 'wotsh', felly? 'Rhen betha Susnigaidd iddyn nhw! :P



Nag'dyn - "watsh" mae'r ddau a'u chwaer fach yn ddweud - er mai "wotsh" dw i'n weud. Trefor ar ei hôl hi eto!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Llun 30 Hyd 2006 8:42 pm

Gwishgo watsh pob dydd, trwy'r amser. Timlo'n borcyn hebddo fe.
Prynodd y wejen fi watsh sydd da cwff lleter i fy mhenblwydd llynedd. Achos bod e yn mor fawr ma' bod hebddo'r un hwn yn neud y teimlad o borcyndra yn waeth byth.

Ffaelu help edrych arno fy watsh am yr amser hyd yn oed pan dwi ar y cyfrifiadur, neu'n dala fy ffon yn fy llaw.
Hefyd yn edrych at fy arddwrn pan ma rhywun yn ofyn i fi "Pwy d'wornod ma ....?" am rhywbeth bell yn y dyfodol. Fi yw'r unig un? :wps:

Oes 'na rywun yn dweud "oriawr" yn naturiol?

Se ni ddim yn gweud oriawr yn naturiol, goffes i wilio am beth odd y gair yn meddwl. :wps:
Watsh ni'n gweud lawr fan hyn.
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Postiogan anffodus » Llun 30 Hyd 2006 9:12 pm

Dwi byth yn gwisgo watsh wan - hollol wahanol i fel o'n i. Pan o'n i'n fach o'n i'n gwisgo watsh drwy'r adeg ac yn ei gwisgo hi'n dyn ofnadwy fel bod 'na hoel ar fy ngarddwrn i bob tro o'n i'n ei thynnu hi. Ond dipyn yn ôl nath hi stopio gweithio ac am dipyn odd hi'n chwithig peidio'i gwisgo hi ond ddes i'm rownd i brynu un newydd ond erbyn rwan dwi di arfar. Gwisgo un o gwbwl fysa'n chwithig rwan ma'n siwr.
Cod ar dy draed y llipryn! Lle ti'n feddwl wt ti?! Butlins?!!
anffodus
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Maw 07 Maw 2006 7:31 pm
Lleoliad: trefor (yn y tywyllwch - newydd gal powercut)

Postiogan Gwen » Maw 31 Hyd 2006 12:41 pm

sian a ddywedodd:
Gwen a ddywedodd:Ydi Dawn Cyfarwydd ac Anffodus yn deud 'wotsh', felly? 'Rhen betha Susnigaidd iddyn nhw! :P



Nag'dyn - "watsh" mae'r ddau a'u chwaer fach yn ddweud - er mai "wotsh" dw i'n weud. Trefor ar ei hôl hi eto!


Mae'n siwr mai yn fanno y collais inna genhedlaeth hefyd... (neu bod angen i mi dderbyn mod i bellach yn perthyn i genhedlaeth y tad :( )
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan margiad ifas » Iau 09 Tach 2006 1:43 pm

Dwi byth byth byth yn gwisgo wotsh, sgeni'm un a dwi'm isho un chwaith. Ers pan oni'n fach dwi'm di licio'r syniad o wisgo un, fwy na thebyg am mod i'n hogan breichled.

Dwi'n teimlo bo wotsh yn caethiwo rywun rywsut, teimlad personol ella!

Os fyddai isho gwbo'r amsar fyddai wastad yn sbio ar fy ffôn symudol, ac os di batri hwnnw di marw, tyff! dwi byth ar amsar i nulla eniwe, a dwim isho bod chwaith! dwi'n lico bod yn anibynol!
*Os na chymerir iaith llenyddiaeth o enau’r werin, os dirmygir tafodiaith, cyll arddull yr iaith ei naturioldeb a’i swyn. . .*
Rhithffurf defnyddiwr
margiad ifas
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 156
Ymunwyd: Iau 16 Meh 2005 10:51 pm
Lleoliad: Cwmllynfell

Postiogan Brenhines y fflweriaid » Maw 14 Tach 2006 11:03 pm

Cytunaf yn llwyr margiad ifas!! Mae 'sdres' yn cael ei achosi o wybod faint o'r gloch ydi hi, ma pawb i weld ar frys di mynd dyddia yma!! Dwnim be ddoth dros ben dyfeisiwr y wotsh wir i greu fath beth, mi fydda pawb yn cael mynd a dod ar ei liwt i hun heb boeni am yr amser!! Dwi'n byw yn ddigon hapus heb un!
Rhithffurf defnyddiwr
Brenhines y fflweriaid
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 12
Ymunwyd: Iau 27 Gor 2006 11:44 am
Lleoliad: llan di naam

oriawr

Postiogan dim*syniad » Gwe 01 Rhag 2006 7:41 pm

Dw i heb wigo oriawr ers misoedd... Ella fod y ffaith mod i wedi ei gwisgo pan oeddwni yn y bath ddim wedi helpu erbyn meddwll...!
Ti'n edrach yn uffernol. Di hynna yn y ffasiwn ddyddia yma?
Rhithffurf defnyddiwr
dim*syniad
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 5
Ymunwyd: Iau 30 Tach 2006 7:50 pm
Lleoliad: Dim syniad

Nôl

Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron