Tudalen 1 o 3

Ydi gwisgo oriawr wedi mynd yn hen beth?

PostioPostiwyd: Sul 29 Hyd 2006 10:33 pm
gan Mali
Gweld erthygl ar y newyddion yn dweud fod gwerthiant yr oriawr wedi gostwng yn sylweddol yn ddiweddar, yn enwedig ymhlith dynion.

NEW YORK (Reuters) - Ask graphic designer Parker Weintz the time and he doesn't look to his wrist, he pulls a cell phone out of his pocket -- and he's not alone.

The proliferation of cell phones, with their list of extra features, has had the knock-on effect of eliminating the need to wear a wristwatch unless it is to make a fashion statement.


Fad ta beth?

PostioPostiwyd: Llun 30 Hyd 2006 12:35 am
gan huwwaters
Dwi o hyd yn gwisgo oriawr. Dwi'n licio nhw, a'r ffaith yw, yn anamal iawn mae'r batri'n colli ei wefr, a ma nhw'n gyfleus, yn lle gorod dadzipio poced a thynnu ffôn allan.

Dwi hefyd yn ei weld fel manylyn gyda dillad wrth fynd allan.

(Dwi ddim yn gwisgo un ar hyn o bryd, gan fod un o'r piniau wedi torri, ac angen cysylltu a'r gwneuthurwyr i gael un newydd. Pin arbennig ydyw.)

PostioPostiwyd: Llun 30 Hyd 2006 9:53 am
gan krustysnaks
Ces i'r sgwrs yma gyda cwpwl o ffrindiau dros y penwythnos. Dwi'n gwisgo oriawr (dim ond gyda llewys hir, ddo) 'analog' ond doedd run o fy ffrindiau. Roedd un neu ddau yn gwisgo oriawr digidol a'r lleill i gyd yn gwneud fel y gwr yn y stori ac yn edrych ar eu ffôn symudol. Dwi'n ffan mawr o fy oriawr ac yn edrych i lawr ar bobl sy heb un.

Hir oes i'r watch! Bydded iddi dicio am oriau eto i ddod!

PostioPostiwyd: Llun 30 Hyd 2006 10:02 am
gan Mr Gasyth
Ron i wastad yn gwisgo oriawr, ac yn teimlo'n noeth heb un. Yna fe dorrodd a ron i'n bwriadu mynd i'w thrwsio ond gyda ffon, buan yr anghofiais popeth amdani. Os mai 'angen yw hanfod dyfeisio' yna mae'r oriawr wedi ei dad-ddyfeisio.

PostioPostiwyd: Llun 30 Hyd 2006 10:14 am
gan Gwen
Fel Mr Gasyth, roedd gwisgo watsh yn rhan o wisgo yn y bore i mi tan yn reit ddiweddar. Am dros ugain mlynedd, dim ond am rhyw ddiwrnod neu ddau y buish i heb un ac ro'n i'n teimlo ar goll y dyddiau hynny. Ro'n i hydnod yn gwisgo un pan o'n i i fod yn ysbryd o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg (ond mistêc oedd hynny). Ond mi stopiais wisgo un ryw ddau fis yn ol a dwi'm yn gweld ei cholli hi o gwbwl. Nid rhyw 'fashion statement' ydi hyn o gwbwl, jyst nad ydw i angen watsh o gwbwl erbyn hyn. Ella bod gan y ffaith mod i bellach yn gweithio mewn swyddfa sefydlog am y tro cynta rwbath i'w neud a'r ffaith. Ro'n i'n arfer tynnu'r watsh i weithio beth bynnag. Dwi'n dal i neud hynny efo fy modrwy briodas... Ella mai honno fydd y peth nesa i fynd.

PostioPostiwyd: Llun 30 Hyd 2006 11:05 am
gan Sili
Fyddwn i'n methu byw yn gyfforddus heb fy oriawr fyth. Dwi'n teimlo ar goll yn llwyr hebddi ar fy mraich a dim ond wythnos dwi di bod heb un i mi fod yn cofio ers i mi gael fy oriawr cyntaf yn dair oed. Mi fysa gennai fwy o hiraeth o golli hon na fy ffon symudol unrhyw ddydd. Ma gennai rhyw 'thing' am fod 10 munud yn fuan i bob man am fod gas gennai fod yn hwyr i unrhyw beth (sy'n golygu mod i fel arfer yn wastio 99% o'r amser yn aros am bobl erill :rolio: ) felly ma oriawr arnai drwy'r adeg yn hanfodol.

PostioPostiwyd: Llun 30 Hyd 2006 11:15 am
gan sian
Dw i'n gwisgo watsh - ac yn tueddu i edrych arni hyd yn oed pan fydda i'n gweitho wrth y cyfrifiadur.
Pan na fydda i wrth y cyfrifiadur mae'n well 'da fi edrych ar fy watsh na dibynnu ar y ffôn achos o leia dw i'n gwbod lle mae fy mraich.

Gwen a ddywedodd:Dwi'n dal i neud hynny efo fy modrwy briodas...


Pam? :?

PostioPostiwyd: Llun 30 Hyd 2006 11:17 am
gan Positif80
krustysnaks a ddywedodd: Dwi'n ffan mawr o fy oriawr ac yn edrych i lawr ar bobl sy heb un.


:ofn:

PostioPostiwyd: Llun 30 Hyd 2006 11:23 am
gan Cymro13
Methu gadael y Ty heb fy Oriawr - Er mod gen i'r amser ar fy ffôn symudol

PostioPostiwyd: Llun 30 Hyd 2006 11:30 am
gan sian
Gyda llaw - dw i'n cofio Dafydd Glyn Jones yn siarad rhyw dro ac yn dweud sut oedd yr ynganiad wedi newid dros dair cenhedlaeth -
Taid yn dweud "wats"
Tad yn dweud "watsh"
Mab yn dweud "wotsh".

Oes 'na rywun yn dweud "oriawr" yn naturiol?