Tudalen 2 o 3

PostioPostiwyd: Llun 30 Hyd 2006 11:44 am
gan dafydd
Wnes i brynu oriawr yn fy arddegau - sbel yn ôl :), un arbennig Casio gyda gwyneb LCD yn dangos cloc analog/digidol (h.y. nid dwylo mecanyddol) a wnes i wisgo hynny tan iddo dorri blwyddyn diwetha. Dy'n nhw ddim yn gwneud rheina rhagor - o'n i mor ypset wnes i chwilio ebay a siopau arbennigol am un tebyg, heb lwc. Felly ers blwyddyn dwi ddim wedi gwisgo watsh a dwi ddim yn ei golli llawer. Mae yna glociau ar bob dyfais ac ymhob lle cyhoeddus.. mae'n anodd dianc o'r cloc yn y byd modern.

Wedi dweud hyn, hoffwn i gael watsh i wisgo eto.. un digidol. Dwi ddim angen stopwatsh, larwm, amserydd - dwi ddim yn 13 oed rhagor ac yn trio gwasgu'r botwm mor gyflym a phosib i gael yr amseriad lleia posib. Mae rhan fwyaf o'r watshys digidol dyddie ma yn 'sports watches' - hen bethau afiach chunky. Yr unig rhai ar gael nawr dwi'n hoffi yw'r rhai ychydig mwy 'designer' neu y rhai retro fel hyn.

PostioPostiwyd: Llun 30 Hyd 2006 11:47 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
sian a ddywedodd:Oes 'na rywun yn dweud "oriawr" yn naturiol?


Oes.

Cytuno'n llwyr 'da ti, Krusty. Ysgymun yw'r rheiny sydd ddim yn gwisgo oriawr. Mae gorfod tynnu'ch ffôn mas bob tro chi moyn gwbod faint o'r gloch yw hi yn uffernol o anghyfleus.

Gyda llaw, ddarllenes i rywbeth yn y Grauniad pyddwrnod oedd yn dweud, er bod gwerthiant oriorau rhad wedi gostwng, mae gwerthiant rhai drud fel 'status symbol' ar gynnydd. Mae 'na rai pobl sy'n fodlon talu miloedd amdanyn nhw. :o

PostioPostiwyd: Llun 30 Hyd 2006 11:59 am
gan Gwen
sian a ddywedodd:Oes 'na rywun yn dweud "oriawr" yn naturiol?


Dwi'n deud 'oriawr' fel arfer wrth siarad efo fy ngwr - oni bai mod i'n gneud ati i dynnu'n groes, fel y bydda i weithia. Ond yn naturiol, nachdw. Fyswn i byth yn deud 'wotsh' chwaith felly mae'n debyg y bysa Dafydd Glyn yn deud mod i'n perthyn i genhedlaeth y tad... :( Ydi Dawn Cyfarwydd ac Anffodus yn deud 'wotsh', felly? 'Rhen betha Susnigaidd iddyn nhw! :P

sian a ddywedodd:
Gwen a ddywedodd:

Dwi'n dal i neud hynny efo fy modrwy briodas...


Pam? :?


Fedra i'm teipio efo hi. Dwi'm di arfer cael llyffetheiriau fel hyn ar fy mysedd a dwi'm yn licio'r teimlad o gwbwl. Nesh i rioed allu gwisgo watsh mewn gwers na darlith nac wrth sgwennu na theipio dim byd chwaith. Ella bod rhywun yn dwad i arfer ond mae o i'w weld yn anghyffyrddus iawn i mi.

PostioPostiwyd: Llun 30 Hyd 2006 12:15 pm
gan Ari Brenin Cymru
Fyddai bob amser yn gwisgo oriawr, un analog fel arfer, ond os dwi'n colli honno rownd ty fyddai'n gorfod mynd yn ol i fy hen oriawr casio digidol.

PostioPostiwyd: Llun 30 Hyd 2006 12:16 pm
gan Geraint
Byth.

Yn ysgol, ymysg y bechgyn, wotshis casio yn fath o status symbol. Mi o ni efo un anferth digidol, a oedd yn sdorio rhifau a pethau. Hollol iwsles i mi, ond o ni'n licio gadgets. Stopes i wisgo un tra o ni'n gweithio i Safeways ar Ddyddiau Sadwrn pan o ni'n 17. Roedd o mor diflas, o ni'n edrych ar y wotsh pob munund, a roedd pob munud yn teimlo fel oes. Felly stopies i wisgo y wotsh, a ffeindiaus fod amser yn mynd yn gyflymach. Ers hynny dwi byth di gwisgo un. Ma da fi'r ffon, ond es i am flynyddoedd cyn cael y ffon, heb wotsh. Ma na pethau efo'r amser o gwmpas pob man, ond weithiau, da chi ddim isho gwybod yr amser!

PostioPostiwyd: Llun 30 Hyd 2006 12:36 pm
gan Wierdo
Fel ambell i berson, mi onin gwisgo oriawr trwy dydd bob dydd heb eithriad tan ychydig o flynyddoedd yn ol. Mi dorodd un geshi gin fy nghariad a hwnnw'n reit newydd. Mi onin teimo'n gwbwl noeth hebddi am fisoedd yn enwedig oherwydd nad oeddwn yn cario ffon symudol ar y pryd felly doedd gin i fyth syniad faint o'r gloch ydi hi. Tydwi heb brynu un newydd oherwydd mod i rhu stinji a dyw nghariad heb brynu un i fi oherwydd ei fod wedi colli ei fydd mewn prynu watchys i mi!

Felly, yn fyr, ydw dwin un o'r bobl na syn edrych ar fy ffon yn lle oriawr, ond nid oherwydd fod on cwl ond yn hytrach oherwydd mod in ast fach stinjy sydd ddim eisiau gwario £20 ar oriawr newydd! Dwi dal yn edrych ar fy mraich o dro i dro pan mae rhywun yn gofyn yr amser i mi!

PostioPostiwyd: Llun 30 Hyd 2006 3:05 pm
gan Sili
Wierdo a ddywedodd:Felly, yn fyr, ydw dwin un o'r bobl na syn edrych ar fy ffon yn lle oriawr, ond nid oherwydd fod on cwl ond yn hytrach oherwydd mod in ast fach stinjy sydd ddim eisiau gwario £20 ar oriawr newydd!


Presant Dolig ti'n sorted rwan gen i felly mechan i... :winc:

PostioPostiwyd: Llun 30 Hyd 2006 5:24 pm
gan Mali
krustysnaks a ddywedodd:
Hir oes i'r watch! Bydded iddi dicio am oriau eto i ddod!


Amen . :)
Ond yn gweld fod y pol opiniwn yn cadarnhau nad yw oriawr mor bwysig bellach. :(

PostioPostiwyd: Llun 30 Hyd 2006 5:29 pm
gan Mali
Ari Brenin Cymru a ddywedodd:Fyddai bob amser yn gwisgo oriawr, un analog fel arfer, ond os dwi'n colli honno rownd ty fyddai'n gorfod mynd yn ol i fy hen oriawr casio digidol.


Cofio prynu yr un cyntaf [ a'r olaf] digidol efo pres wnês i gael ar fy mhenblwydd yn 18. Sôn am wast o 40 o bunoedd . :P Mae o dal gen i yn rhywle , er dwn i'm yn lle chwaith. :?
Ond ar y pryd ,'roedd o'n eithaf cŵl.

PostioPostiwyd: Llun 30 Hyd 2006 5:31 pm
gan Mali
sian a ddywedodd:Gyda llaw - dw i'n cofio Dafydd Glyn Jones yn siarad rhyw dro ac yn dweud sut oedd yr ynganiad wedi newid dros dair cenhedlaeth -
Taid yn dweud "wats"
Tad yn dweud "watsh"
Mab yn dweud "wotsh".

Oes 'na rywun yn dweud "oriawr" yn naturiol?


Na ... :wps: