Gwishgo watsh pob dydd, trwy'r amser. Timlo'n borcyn hebddo fe.
Prynodd y wejen fi watsh sydd da cwff lleter i fy mhenblwydd llynedd. Achos bod e yn mor fawr ma' bod hebddo'r un hwn yn neud y teimlad o borcyndra yn waeth byth.
Ffaelu help edrych arno fy watsh am yr amser hyd yn oed pan dwi ar y cyfrifiadur, neu'n dala fy ffon yn fy llaw.
Hefyd yn edrych at fy arddwrn pan ma rhywun yn ofyn i fi "Pwy d'wornod ma ....?" am rhywbeth bell yn y dyfodol. Fi yw'r unig un?
Oes 'na rywun yn dweud "oriawr" yn naturiol?
Se ni ddim yn gweud oriawr yn naturiol, goffes i wilio am beth odd y gair yn meddwl.
Watsh ni'n gweud lawr fan hyn.