Dathlu Penblwydd Mam yn 50 - sut?

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Dathlu Penblwydd Mam yn 50 - sut?

Postiogan Llefenni » Llun 30 Hyd 2006 8:01 pm

Ddim yn siwr os di hwn yn y lle iawn, ond dwi mewn picil...

Mae Mam yn hanner cant ar y 18ed o Ragfyr eleni, a dwi wedi gadael hi braidd yn hwyr i drefnu penwthnos dda iddi... felly fe allwch chi helpu!

Dwi'n chwilio am rywbeth alla'i drefnu iddi wneud yma yn Ngaerdydd / ardal Machynlleth (ie, dwi'n gwbod!) i'w thretio. Rhywle i aros, gweithgredd i'w wneud dros benwythnos.

Diolch am unrhyw syniadau! :)
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Postiogan Mali » Llun 30 Hyd 2006 11:14 pm

Hmmm, mae hanner cant yn benblwydd arbennig, ond mae penblwydd dy fam yn agos iawn at y'dolig,felly dwi'n siwr bydd y ddinas yn brysur iawn.
Beth am ginio / swper allan efo'r teulu yn rhywle arbennig , diwrnod mewn spa, siocledi a blodau wastad yn mynd i lawr yn dda , neu noson mewn gwesty arbennig yn yml Machynlleth.
Ond beth bynnag wnei di , dwi'n siwr wneith dy fam ei werthfawrogi. :)
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Ray Diota » Maw 31 Hyd 2006 10:59 am

Byddai di symyd i city road erbyn 'ny, llef. Jyst anfonai draw ar fore dy' sadwrn... :winc:
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Postiogan Llefenni » Maw 31 Hyd 2006 3:08 pm

Ray Diota a ddywedodd:Byddai di symyd i city road erbyn 'ny, llef. Jyst anfonai draw ar fore dy' sadwrn... :winc:


Cadwa'n Fam i allan o dy ffantasïau Ray - neu na'i ddeud oth y tad y fflatmêt be ti di bod yn insiniwetio am ei fam o... www, Gerry perryg :D


Gyda llaw - cynigion difrifol yn angenrheidiol, mae'n mynd yn desbret 'ma bois :(
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Postiogan Gwyn » Maw 31 Hyd 2006 3:26 pm

Ga i argymell y Brigands Inn yn Mallwyd. Un o'r llefydd bwyd neisa yn y Canolbarth weden i. Tua 20 munud o Mach, a lle itha posh fyd.
Shwdi boi
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 579
Ymunwyd: Iau 07 Ebr 2005 12:47 pm
Lleoliad: Clywedog

Postiogan Lodes Fech Glen » Mer 01 Tach 2006 9:22 am

Beth am fynd a hi i Blas Talgarth ym Mhennal? Digon o bampro!!
Ooo Diar!!!
Rhithffurf defnyddiwr
Lodes Fech Glen
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 108
Ymunwyd: Sad 12 Chw 2005 9:50 pm
Lleoliad: Maldwyn

Postiogan khmer hun » Mer 01 Tach 2006 10:13 am

Does na'm posib dal cwch o'r Bae i Benarth? Spot o ginio, wâc rownd Oriel Washington, cwch nôl a swper mewn ryw le sushi neu rywbeth?

Neu be' am dancad hen ffasiwn yn Llew Coch Dinas Mawddwy - stafelloedd itha rhad na 'fyd.
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Postiogan Ray Diota » Mer 01 Tach 2006 10:26 am

Llefenni a ddywedodd:
Ray Diota a ddywedodd:Byddai di symyd i city road erbyn 'ny, llef. Jyst anfonai draw ar fore dy' sadwrn... :winc:


Cadwa'n Fam i allan o dy ffantasïau Ray - neu na'i ddeud oth y tad y fflatmêt be ti di bod yn insiniwetio am ei fam o... www, Gerry perryg :D


Gyda llaw - cynigion difrifol yn angenrheidiol, mae'n mynd yn desbret 'ma bois :(


Gerry Perryg - ma'n cynganeddu 'chan! (dyma fydd fy enw os byddai'n dechrau gyrfa fel 'crooner') :D

Cadwa fe'n simpl... blode a gwd feast yn le gallois...

hmm... sori, llef, fi'n ffacin crap da pethe fel hyn...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Postiogan Meg » Iau 02 Tach 2006 5:58 pm

Pa mor fywiog ydi dy fam di? 50 ifanc? Os ydi hi'n barod am sialens, be am sesiwn o saethu colomennod clai i'r teulu yn y lle Dyfi rwbath neu'i gilydd - nid nepell o Glantwymyn? Bosib eu bod nhw'n gneud teithiau beics 4 olwyn hefyd. Wedyn, iddi gael gwared o'r chwys, mi fyswn i (fel Lodes Fech Glen) yn mynd am Blas Talgarth, Pennal lle gaiff hi jacuzzi a facials a massages ac ati.
A swper yn Brigand's Inn wedyn - neis iawn iawn.
Ond y 3 yna reit ddrud!
Meg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 223
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 1:06 pm
Lleoliad: Gogledd

Postiogan Llefenni » Iau 02 Tach 2006 8:18 pm

Diolch yn dalpau am help pawb yn hyn - mae pethe'n dechrau siapio wedi'r syniadau yma i gyd - da chi gyd yn lyfli :D

(Hydynoed Ray :o )
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Nesaf

Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 21 gwestai