Cadi Te

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Cadi Te

Postiogan blanced_oren » Llun 30 Hyd 2006 9:13 pm

Shwmae. Oes rhywun sy'n gwybod ble gallai brynu cadi te gyda'r gair 'te' arno fe, yn ddelfrydol dros y we?
blanced_oren
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 85
Ymunwyd: Iau 24 Chw 2005 6:21 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Mali » Maw 31 Hyd 2006 11:38 pm

Mi faswn inna â diddordeb mewn prynu un o rhain hefyd! 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Mali » Maw 07 Tach 2006 5:21 pm

Oes 'na rai ar gael mewn siopau Cymraeg tybed?
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Maw 07 Tach 2006 5:26 pm

Mae'r rhai pridd i'w cael mewn llawer i siop Gymraeg (fatha sgen famau a neiniau pawb mae'n siwr... :rolio: )

Mi fyswn innau'n licio cael un hefyd (ac un siwgr ella) - ond dim cweit mor fawr a'r un pridd sgin Mam, ac ella chydig fwy 'modern' (dim modern, per se, jysd dim un pridd! Mwy lliwgar ella?)

Dwnim os ydi'r ferch sy'n y Steddfod yn gwneud rhai (wychi, yr un sy'n gwneud cwpanau efo 'Panad', 'Dished' arnyn nhw, a ballu...)

Pan ffeindiwch chi rai - gadwch i fi wybod! Thenciw!
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan blanced_oren » Maw 07 Tach 2006 8:22 pm

Nes i edrych mewn cwpl o siopau yng Nghaerdydd ond heb lwyddiant.

Mae gen i coaster 'panad' o'r steddfod, a byddai rhywbeth tebyg i honna yn wych.

Oes rhywun sy'n gwybod pwy sy'n gwneud e?
blanced_oren
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 85
Ymunwyd: Iau 24 Chw 2005 6:21 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Maw 07 Tach 2006 8:23 pm

Gwraig/cariad i frawd gwr ffrind Mam...

Mi hola i!!
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Maw 07 Tach 2006 8:24 pm

Ma rhwbath yn deud wrtha i fod Oriel Pwll Defaid rwbath i neud efo'r peth...
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Mali » Mer 08 Tach 2006 4:08 am

Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:Ma rhwbath yn deud wrtha i fod Oriel Pwll Defaid rwbath i neud efo'r peth...


Fedri di egluro i Gymraes ar wasgar Fflamingo ogwydda ? :?
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Mer 08 Tach 2006 12:10 pm

Mae 'na stodin yn y 'Steddfod sy'n (dwi'n meddwl) gasgliad o 4 neu 5 o gwmniau llai (crefftau, dillad babi, gemwaith, llestri...).

Dwi'n meddwl mai Oriel Pwll Defaid ydi enw'r stondin.

Neu ella mai enw'r cwmni llestri (cwpanau Panad/Dishied) ydi Oriel Pwll Defaid??

Mi hola i Mam tro nesa bydd hi ar y ffôn - fel dudish i, ma' hi'n gwbod pwy sy'n gyfrifol am y cwpanau Paned/Dishied ayyb.
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Gwen » Mer 08 Tach 2006 12:54 pm

Mi gesh i gopi o'r catalog yn y Steddfod rai blynyddoedd yn ôl - o stondin Pwll Defaid, ond os dwi'n cofio'n iawn, rhywun arall oedd yn gwneud y llestri. Crochenwaith Ceri* neu rwbath felly dwi'n meddwl. Beth bynnag, mi ffoniais i'r rhif oedd ar y catalog ac archebu rhywfaint o lestri ond pan driais i eto ryw flwyddyn yn ddiweddarach chesh i ddim ateb. Mi driais lot o weithia. Dwn i'm ydi'r busnes wedi dwad i ben - dydach chi ddim yn gweld cymaint o'r llestri o gwmpas dyddia yma, nacdach?

* Mae'n bosib fod hyn yn hollol anghywir, a finna'n cymysgu efo'r cwmni wnaeth fy nghacen briodas!
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Nesaf

Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 17 gwestai