Mae'r rhai pridd i'w cael mewn llawer i siop Gymraeg (fatha sgen famau a neiniau pawb mae'n siwr... )
Mi fyswn innau'n licio cael un hefyd (ac un siwgr ella) - ond dim cweit mor fawr a'r un pridd sgin Mam, ac ella chydig fwy 'modern' (dim modern, per se, jysd dim un pridd! Mwy lliwgar ella?)
Dwnim os ydi'r ferch sy'n y Steddfod yn gwneud rhai (wychi, yr un sy'n gwneud cwpanau efo 'Panad', 'Dished' arnyn nhw, a ballu...)
Pan ffeindiwch chi rai - gadwch i fi wybod! Thenciw!
Mi gesh i gopi o'r catalog yn y Steddfod rai blynyddoedd yn ôl - o stondin Pwll Defaid, ond os dwi'n cofio'n iawn, rhywun arall oedd yn gwneud y llestri. Crochenwaith Ceri* neu rwbath felly dwi'n meddwl. Beth bynnag, mi ffoniais i'r rhif oedd ar y catalog ac archebu rhywfaint o lestri ond pan driais i eto ryw flwyddyn yn ddiweddarach chesh i ddim ateb. Mi driais lot o weithia. Dwn i'm ydi'r busnes wedi dwad i ben - dydach chi ddim yn gweld cymaint o'r llestri o gwmpas dyddia yma, nacdach?
* Mae'n bosib fod hyn yn hollol anghywir, a finna'n cymysgu efo'r cwmni wnaeth fy nghacen briodas!