Risylt.
Mae Mam bellach yn gwbod i sicrwydd fod Bethan, o "Crochenwaith Bethan" sydd ar stondin "Oriel Pwll Defaid" yn yr Eisteddfodau
yn gwneud potia tê a choffi ayyb Cymraeg. Gan wybod natur ei busnes (tydw i ddim yn ei hadnabod yn bersonol), 'swn i'm yn synnu y bysa hi'n fodlon gwneud rhai arbennig ymhabynnag liw ydi'ch cegina' chi a mynd a nhw i'r Eisteddfod i chi eu prynu?!...werth trio ei ffonio hi i ofyn ella??
Mi fuish i yn siop fawr Dunelm Mill (
) dros y penwythnos a phrynu cyfres o botiau gwydr neis i ddal fy magiau tê. Mi fuo rhaid i mi brynu chwech i gyd (£1.49 yr un) - un i'r tê arferol, un i'r Lady Grey, un i'r Peppermint, un i'r coffi, un i'r siwgr ac un i'r halen. Dwi'di torri darn o'r bocsus a'i roi y tu mewn i'r jaria fel mod i'n gwbod pa dê sy'mha bot, ond y bwriad ydi iwsho paent gwydr i'w labelu nhw'n neis i gyd-fynd a'nghegin. Mae gen i baent gwydr ers rhyw ffad gesh i 'sdalwm, felly dyma ddewis rhad i unrhywun sy'n desbret i gael potia tê a choffi Cymreig!