gan cwrwgl » Sul 12 Tach 2006 12:31 pm
Mae Andras yn iawn - mae rhedeg yn medru achosi nifer o broblemau, ond gellir lleihau y perygl o anafiadau trwy:
- ddechrau yn ara deg gan wneud pellterau bach a chynyddu pellter a chyflymder yn raddol iawn
- cynhesu i fyny yn iawn (e.e. cerdded yn gyflym am 10 munud cyn dechra rhedeg)
- strechio yn iawn ar y diwedd (dylai hyn gymeryd o leia 10 munud hefyd)
O ran nofio a mynydda - iyp - debyg eu bod yn ffyrdd gwell i'r corff o gadw'n heini, ond mae rhedeg mor "syml" yn tydi? Gelli wella ffitrwydd a cholli pwysau trwy redeg jyst wrth fynd allan am 1/4 awr o run cwpl o weitha yr wythnos. Dwi'n gweld mynydda yn andros o 'time consuming', a nofio yn hasl, o ran dull o wella/cynnal ffitrwydd.