Ddim yn siwr lle i roi hwn, ond ta waeth. Dwi di dechra loncian ac wrth deimlo fy esgyrn yn jarrio a'r blistyrs yn tyfu bore ma, dwi di sylweddoli fod rhaid i fi gal sgidia newydd cyn gynted a phosib. Es i fewn i ryw siopa chwaraeon ddoe a weles i ddim byd ond sgidia chavvy yno.
Dwi'n hollol ddiglem am y petha ma a dwi'm isio ymddangos yn hollol ddwl pan ai fewn i siop - felly sut sgidia sy'n rhesymol a sy'n addas ar gyfer rhedeg ar ffyrdd? Am pa eiria ddylswn i chwilio yn y disgrifiad o'r sgidia? Lle gai nhw?
Thenciw