Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Gwe 10 Tach 2006 12:19 am
gan Madrwyddygryf
Gan gofio os ydych yn byw yng Nghaerdydd a'r cyffiniau, mae na glwb rhedeg ar gyfer Cymry Cymraeg. Rydym yn cyfarfod bob nos Lun tu allan i Athronfa Chwaraeon, Gerddi Sophia am 6 y nos.

PostioPostiwyd: Gwe 10 Tach 2006 8:57 am
gan Chwadan
Madrwyddygryf a ddywedodd:Gan gofio os ydych yn byw yng Nghaerdydd a'r cyffiniau, mae na glwb rhedeg ar gyfer Cymry Cymraeg. Rydym yn cyfarfod bob nos Lun tu allan i Athronfa Chwaraeon, Gerddi Sophia am 6 y nos.

Pa mor hard-côr 'dach chi?

PostioPostiwyd: Gwe 10 Tach 2006 9:39 am
gan joni
Chwadan a ddywedodd:
Madrwyddygryf a ddywedodd:Gan gofio os ydych yn byw yng Nghaerdydd a'r cyffiniau, mae na glwb rhedeg ar gyfer Cymry Cymraeg. Rydym yn cyfarfod bob nos Lun tu allan i Athronfa Chwaraeon, Gerddi Sophia am 6 y nos.

Pa mor hard-côr 'dach chi?

Mwy hard na CF1 dybiwn i...

PostioPostiwyd: Gwe 10 Tach 2006 1:49 pm
gan Madrwyddygryf
Chwadan a ddywedodd:
Madrwyddygryf a ddywedodd:Gan gofio os ydych yn byw yng Nghaerdydd a'r cyffiniau, mae na glwb rhedeg ar gyfer Cymry Cymraeg. Rydym yn cyfarfod bob nos Lun tu allan i Athronfa Chwaraeon, Gerddi Sophia am 6 y nos.

Pa mor hard-côr 'dach chi?


Rhedeg tua 4-6 milltir bob tro. Ond mae pawb gyda gwahanol cyflymder, mae na rhai cyflym a mae na rhai araf. Dewch drosodd i weld os ydych yn gyfforddus i redeg hefo ni.

PostioPostiwyd: Sad 11 Tach 2006 1:08 pm
gan cwrwgl
Cytuno efo be ddwedodd Madrwyddygryf uchod. Dos i siop redeg GO IAWN a gofyn am help aelod o staff yn syth. Run&Become Caerdydd ydi un o'r goreuon yng Nghymru.

Gad iddyn nhw dy weld yn rhedeg ar hyd y stryd (mi wnei deimlo'n hollol hurt ond mae werth o) ac mi dduden wrthyt ba sgidiau dylet eu cael (doro limit pris iddynt cyn cychwyn os ti'n sgint, ond dylet ddisgwyl talu hyd at £80 am bar o sgidia rhedeg da).

COFIA - os ei i redeg dipyn mewn sgidiau gwael, neu anaddas i dy "gait", mi lasat wneud mwy o ddrwg nag o les i dy hun (penagliniau/cluniau ayb).

Dylai rhedwr sy'n neud pellter "average" fod angen par o sgidiau newydd pob blwyddyn.

Pob hwyl!

o.n. os ti'n joio - anela at wneud ras 5km o fewn rhyw 2 neu 3 mis. Mae'n neud lot o wahaniaeth cael targed benodol.

PostioPostiwyd: Sad 11 Tach 2006 4:23 pm
gan andras
on i arfer rhedeg (gynt mi o'n i'n rhedeg chwe milltir y diwrnod ac yn wythnosol hyd hanner marathons) a fedrai weud bod yna ffyrdd llawer, llawer gwell o gadw'n heini- os wyt ti'n bwriadu rhedeg dipyn ma anafiadau a poen coese'n anorfod, faint bynnag mor ofalus fyddi di. llawer gwell mynydda, nofio.
ond, os mynni di redeg, llawer gwell rhedeg ar gaeau, ac am sgidiau, chei di ddim llawer gwell na new balance.

PostioPostiwyd: Sul 12 Tach 2006 12:31 pm
gan cwrwgl
Mae Andras yn iawn - mae rhedeg yn medru achosi nifer o broblemau, ond gellir lleihau y perygl o anafiadau trwy:
- ddechrau yn ara deg gan wneud pellterau bach a chynyddu pellter a chyflymder yn raddol iawn
- cynhesu i fyny yn iawn (e.e. cerdded yn gyflym am 10 munud cyn dechra rhedeg)
- strechio yn iawn ar y diwedd (dylai hyn gymeryd o leia 10 munud hefyd)

O ran nofio a mynydda - iyp - debyg eu bod yn ffyrdd gwell i'r corff o gadw'n heini, ond mae rhedeg mor "syml" yn tydi? Gelli wella ffitrwydd a cholli pwysau trwy redeg jyst wrth fynd allan am 1/4 awr o run cwpl o weitha yr wythnos. Dwi'n gweld mynydda yn andros o 'time consuming', a nofio yn hasl, o ran dull o wella/cynnal ffitrwydd.