Traddodiad y "cwrw bach"

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Traddodiad y "cwrw bach"

Postiogan aberdarren » Iau 09 Tach 2006 10:26 pm

Fedr rhywun esbonio traddodiad y "cwrw bach" neu awgrymu llyfr a fydd yn esbonio y traddodiad yma.

Rwy wedi ddarllen cyfeiriadau at y traddodiad yma gan yr haneswyr John Davies a Gwyn Williams tra'n trafod Merthyr oddeutu 1830.

Diolch yn fawr.
aberdarren
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 64
Ymunwyd: Sul 14 Awst 2005 10:22 pm
Lleoliad: Yn y Bragdy

Postiogan Rhys » Gwe 10 Tach 2006 10:11 am

Mae pennod amdano yn llyfr diweddar Lyn Ebenezer o'r enw Cwrw Cymru. Werth ei ddarllen.
http://www.gwales.com/bibliographic/?lang=CY&tsid=3
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Traddodiad y "cwrw bach"

Postiogan aberdarren » Llun 30 Ebr 2007 9:05 pm

aberdarren a ddywedodd:Fedr rhywun esbonio traddodiad y "cwrw bach" neu awgrymu llyfr a fydd yn esbonio y traddodiad yma.


Mae Elfyn Scourfield yn ysgrifennu yn y llyfr Macsu Cwrw yn Nyfed (Amgueddfa Genedlaethol Cymru 1983, ISBN 0 85485 068 6) :

Prif amcan y 'cwrw bach' oedd cynorthwyo teulu a ddioddefai o dlodi, neu deulu a gawsai brofedigaeth neu ddigwyddiad anffortunus. Byddai cymdogion a pherthnasau yn cyrchu yno i gynnal gwledd arbennig o gacennau a bwydydd eraill, ac fe geid digonedd o gwrw o facsad cartref. Disgwylid i'r unigolion dalu ychydig tuag at y bwyd, ond rhoddid y cwrw yn rhad i osgoi cosb am werthu diod.
aberdarren
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 64
Ymunwyd: Sul 14 Awst 2005 10:22 pm
Lleoliad: Yn y Bragdy

Postiogan Selador » Mer 09 Mai 2007 12:10 am

Cwrw bach oedd yr hyn a roddwyd i blant yn yr amser cyn puro dwr. Doedd o'm cyn cynnwys lot o alcohol, tua 0.5% mae'n debyg, ond roedd llawer saffach i'w yfed na dwr gan fod dim siawn iddo fod yn heintus.
Just one more sucker on the vine
Rhithffurf defnyddiwr
Selador
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1721
Ymunwyd: Sul 18 Ebr 2004 9:32 pm
Lleoliad: Pen Llyn/Bryste


Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron