Tudalen 1 o 3

Grwp mamau a tadau Cymraeg?

PostioPostiwyd: Gwe 10 Tach 2006 2:29 pm
gan SerenSiwenna
Mae un o ffrindiau fi yma yn Lerpwl yn wreiddiol o Gymru ac mae ganddi blentyn. Mae hi wedi bod yn sidro sut alla hi sicrhau fod ei phlentyn yn cael gwario amser hefo plant eraill Cymraeg fel ei bod hi'n cael y cyfle i siarad Cymraeg hefo pobl heblaw am jest ei mam.

Oes yna grwp ymhysg y rhithfro sy'n siarad am pethau am fod yn rhiant? oes yna rhieni eraill sy'n byw ar glannau'r Merswy fydda a diddordeb mewn settio fynny grwp neu rhywbeth tebyg?

PostioPostiwyd: Gwe 10 Tach 2006 4:19 pm
gan Manon
Roedd dimcwsg.com yn fforwm trafod defnyddiol iawn i rieni Cymraeg, ond ychydig fisoedd yn ol mi gaeodd yr holl beth i lawr yn ddi-rybudd. O'n i'n iwsho lot arno fo a 'dwi'n meddwl bod angen wbath tebyg eto. Oes 'na rywun yn gwybod os oes hanes am atgyfodi dimcwsg.com?

PostioPostiwyd: Gwe 10 Tach 2006 4:41 pm
gan Rhys
Efallai byddai werth gofyn i swyddogion TWF a'r Mudiad Ysgolion Meithin yn Sir y Fflint. Mae MYM yn rhedeg sesiynnau 'Ti a Fi' i rieni sydd â phlant iau.

Mae grŵp o dadau Cymraeg yn cwrdd yng Nghaerdydd ar fore Sul yn fisol, dwi'n meddwl bod 'Jamfeistr' o'r maes yn rhan o'r peth.[/img]

PostioPostiwyd: Sad 11 Tach 2006 12:58 pm
gan cwrwgl
Oes unrhywun yn gwbod be ddigwyddodd i dimcwsg.com?
Ro ni'n ei ddefnyddio hefyd, ond un diwrnod roedd o jyst wedi mynd.
Biti - roedd o'n handi, os ychydig yn "dead".

PostioPostiwyd: Mer 15 Tach 2006 9:39 am
gan SerenSiwenna
Roedd fy ffrind wedi meddwl am creu blog rhieni Cymraeg yn Lerpwl/ glannau Merswy, i geisio ffeindio rhieni eraill i cwrdd a hwy. Fysa hi reit dda petai yna wefan canolig fel y dim cwsg na, wedyn ella alla hi rhoid linc arno iw seiat?

Unrhywun yn gwybod pwy oedd yn rhedeg y wefan?

PostioPostiwyd: Iau 16 Tach 2006 7:55 pm
gan Dili Minllyn
cwrwgl a ddywedodd:Oes unrhywun yn gwbod be ddigwyddodd i dimcwsg.com?
Ro ni'n ei ddefnyddio hefyd, ond un diwrnod roedd o jyst wedi mynd.
Biti - roedd o'n handi, os ychydig yn "dead".

Mae rhywun arall wedi prynu'r enw, ac mae rhaid i'r perchnogion gwreiddiol ei brynu'n ôl. Roedd yn dioddef lot o spam hefyd.

PostioPostiwyd: Gwe 17 Tach 2006 12:03 am
gan nicdafis
Dyma'r <a href="http://maes-e.com/viewtopic.php?t=19706&highlight=dimcwsg">edefyn blaenorol am sefyllfa dimcwsg.com</a>.

PostioPostiwyd: Llun 04 Rhag 2006 11:09 am
gan SerenSiwenna
Hmmm, mae'n debyg o be dwi di weld bod dimcwsg.com wedi cau lawr. Oes modd i rhywun creu wefan newydd tebyg?

Hefyd, a oes yna maeswyr eraill yma sy'n hefo plant ac yn byw ar glannau'r merswy?

PostioPostiwyd: Llun 04 Rhag 2006 7:04 pm
gan S.W.
Mae gan yr Urdd, adran yr Urdd yn Lerpwl, felly byddai cysylltu a nhw yn gallu bod yn fuddiol. Mae yna Bapur Bro ar gyfer ardal Glannau'r Merswy - yr Angor felly byddwn in tybio bod y rhain yn ffyrdd da o gysylltu a siaradwyr Cymraeg eraill. Mae yna Gymdeithas Gymraeg yno hefyd, os dwin cofio'n iawn mae nhw'n cwrdd yn Canolfan y Crynwyr. Oes 'na dal i fod ambell i Gapel Cymraeg yn yr ardal?

Dwi'n gwbod am un Gymru Cymraeg sydd mewn sefyllfa tebyg yn Ellesmere Port - h.y. isio'i blentyn i gael siarad yn Gymraeg.

PostioPostiwyd: Maw 19 Rhag 2006 3:04 pm
gan SerenSiwenna
S.W. a ddywedodd:Mae gan yr Urdd, adran yr Urdd yn Lerpwl, felly byddai cysylltu a nhw yn gallu bod yn fuddiol. Mae yna Bapur Bro ar gyfer ardal Glannau'r Merswy - yr Angor felly byddwn in tybio bod y rhain yn ffyrdd da o gysylltu a siaradwyr Cymraeg eraill. Mae yna Gymdeithas Gymraeg yno hefyd, os dwin cofio'n iawn mae nhw'n cwrdd yn Canolfan y Crynwyr. Oes 'na dal i fod ambell i Gapel Cymraeg yn yr ardal?

Dwi'n gwbod am un Gymru Cymraeg sydd mewn sefyllfa tebyg yn Ellesmere Port - h.y. isio'i blentyn i gael siarad yn Gymraeg.


O, diolch am hwn, mi wnai drio cysylltu ar urdd a feindio allan sut i cysylltu ar cangen yn Lerpwl.

Mae Ellesmere port yn reit agos tydi - fysa fy ffrind wrth ei bodd dwi'n siwr. Ydy'r person yma ar y maes?