Tudalen 2 o 3

PostioPostiwyd: Maw 19 Rhag 2006 4:03 pm
gan Dafydd ab Iago
SerenSiwenna a ddywedodd:Hefyd, a oes yna maeswyr eraill yma sy'n hefo plant ac yn byw ar glannau'r merswy?


Ydy hi'n bosib i greu "cylch" ar gyfer rhienni ar y wefan 'ma?

Dafydd

PostioPostiwyd: Mer 20 Rhag 2006 10:45 am
gan Dili Minllyn
Dafydd ab Iago a ddywedodd:Ydy hi'n bosib i greu "cylch" ar gyfer rhienni ar y wefan 'ma?

Syniad da. Wedyn fydd dim rhaid i mi ddiflasu'r holl bobl ifance ddi-blant yma trwy rwdlan am fy meibion annwyl.

PostioPostiwyd: Mer 20 Rhag 2006 12:01 pm
gan Manon
Dili Minllyn a ddywedodd:
Dafydd ab Iago a ddywedodd:Ydy hi'n bosib i greu "cylch" ar gyfer rhienni ar y wefan 'ma?

Syniad da. Wedyn fydd dim rhaid i mi ddiflasu'r holl bobl ifance ddi-blant yma trwy rwdlan am fy meibion annwyl.


'Dwi'n gwbod be ti'n feddwl. 'Dwi methu cyfrannu i 'run edefyn heb roi mensh i sosej bach Mam :winc:

PostioPostiwyd: Mer 20 Rhag 2006 2:04 pm
gan S.W.
SerenSiwenna a ddywedodd:
S.W. a ddywedodd:Mae gan yr Urdd, adran yr Urdd yn Lerpwl, felly byddai cysylltu a nhw yn gallu bod yn fuddiol. Mae yna Bapur Bro ar gyfer ardal Glannau'r Merswy - yr Angor felly byddwn in tybio bod y rhain yn ffyrdd da o gysylltu a siaradwyr Cymraeg eraill. Mae yna Gymdeithas Gymraeg yno hefyd, os dwin cofio'n iawn mae nhw'n cwrdd yn Canolfan y Crynwyr. Oes 'na dal i fod ambell i Gapel Cymraeg yn yr ardal?

Dwi'n gwbod am un Gymru Cymraeg sydd mewn sefyllfa tebyg yn Ellesmere Port - h.y. isio'i blentyn i gael siarad yn Gymraeg.


O, diolch am hwn, mi wnai drio cysylltu ar urdd a feindio allan sut i cysylltu ar cangen yn Lerpwl.

Mae Ellesmere port yn reit agos tydi - fysa fy ffrind wrth ei bodd dwi'n siwr. Ydy'r person yma ar y maes?


Nachdi, ar wefan arall dwim ymweld a fo mae o, er siwr byddwn in gallu creu rhyw gyswllt rhywsut. Bosib bod rhywbeth yng Nghaer hefyd. O be dwi wedi ei glywed dwin meddwl bod gennyt ti grwpiau anffurfiol yn gysylltiedig a pobl yn nabod eu gilydd trwy'r Capeli Cymraeg yn y ddinas. Siwr bod yr un yn wir yn Lerpwl hefyd.

PostioPostiwyd: Mer 20 Rhag 2006 5:51 pm
gan ffwrchamotobeics
Manon a ddywedodd:
'Dwi'n gwbod be ti'n feddwl. 'Dwi methu cyfrannu i 'run edefyn heb roi mensh i sosej bach Mam :winc:


Well na rhoi mensh i sosij mawr Dad mae'n siwr...

PostioPostiwyd: Mer 20 Rhag 2006 9:54 pm
gan Manon
ffwrchamotobeics a ddywedodd:
Manon a ddywedodd:
'Dwi'n gwbod be ti'n feddwl. 'Dwi methu cyfrannu i 'run edefyn heb roi mensh i sosej bach Mam :winc:


Well na rhoi mensh i sosij mawr Dad mae'n siwr...


:ofn:

PostioPostiwyd: Iau 21 Rhag 2006 3:34 pm
gan SerenSiwenna
Reit ta, sut mae creu cylch yn fama?

PostioPostiwyd: Iau 21 Rhag 2006 3:49 pm
gan Rhys
SerenSiwenna a ddywedodd:Reit ta, sut mae creu cylch yn fama?


Anfon NP at Nic

PostioPostiwyd: Sad 23 Rhag 2006 8:01 am
gan Dili Minllyn
Rhys a ddywedodd:Anfon NP at Nic

Wedi'i wneud e. Bydd cylch gyda ni'n fuan.

PostioPostiwyd: Sad 23 Rhag 2006 8:00 pm
gan Dili Minllyn
Mae Nic wedi creu cylch i ni o dan 'newi deitl i Magu'r Babi. Fi yw'r cymedrolwr, ond dwi ddim yn hollol siwr sut mae pobl eraill yn ymuno.