Tudalen 1 o 1

Geiriau 'Santiana'

PostioPostiwyd: Llun 13 Tach 2006 8:17 am
gan Prysor
Oes rhywun yma efo copi o eiriau llawn y gan 'Santiana', os gwelwch yn dda?
Diolch yn fawr iawn. Prysor.

PostioPostiwyd: Llun 13 Tach 2006 11:31 am
gan cwrwgl
gen i gopi o'r gan yma - o un o lyfrau shanties J Glyn Davies.
Ferda i ei sganio a'i bostio fo yma, ond dwi'm yn gallu gweithio allan sut i gynnwys JPEG wrth bostio ymateb! :?

PostioPostiwyd: Llun 13 Tach 2006 11:39 am
gan sian
Alli di ei sganio fe i Word a'i gopio fe?

PostioPostiwyd: Llun 13 Tach 2006 11:57 am
gan cwrwgl
Ydi hyn wedi gweithio?



hmmm, naddo. Sori, dwi'm yn llawer o techie. Nes i drio be gynnigiodd Sian a dio'm di gweithio. help?

PostioPostiwyd: Llun 13 Tach 2006 2:27 pm
gan Tegwared ap Seion
'Ti angen ei "gyhoeddi" ar y we - ar safle megis flickr.com neu imageshack.us ayyb. Wedyn medri di roi url y llun rhwng y tagiau :)

PostioPostiwyd: Llun 13 Tach 2006 3:37 pm
gan cwrwgl
Diolch am y cyngor Tegwared.
ond, argol am drafferth...

Prysor - os ti dal angen/isio copi llawn o'r gan, danfon neges breifat efo dy ebost ac fedra i ei ddanfon i ti fel attachment JPEG. Sori Faeswyr os oedde chi'n edrych ymlaen yn eiddgar i weld hen gopi o'r gan.
Mae'n gan fach dda hefyd (os yda chi'n medru blocio fersiwn Moniars allan o'ch meddwl).