Tudalen 1 o 1

Wici Cymraeg yn Cymreigio enwau

PostioPostiwyd: Gwe 24 Tach 2006 2:19 pm
gan Llefenni
Ddim yn siwr lle i roi hwn, ond oes na rhywyn arall yn meddwl bodi'n uffernol o od/camarweiniol i ddefnyddwyr Wicipedia Cymraeg newid Gymreigio enwau?

Ro'n i'n edrych ar yr erthygl hon am Catherine Parr.. a wedi fy synnu taw Catrin oedd ei enw hi, a Mair oedd enw ei merch (wir rwan :o )

Hmm, dwi di cael digon ar ddarllen 'Daffyd' i'n neud yn flin iawn (eto), s'dim angen i ni ddechre ar yr un peth nagoes?

PostioPostiwyd: Gwe 24 Tach 2006 2:47 pm
gan nicdafis
Ddim yn gweld pwynt Cymreigio enwau, oni bai bod fersiwn Cymraeg mewn defyndd eisioes (Harri yr Wythfed, e.e.).

Ond mae gan Wikipedia ei broses ei hunan am sorto pethau fel hyn mas - well i ti godi'r pwynt fan'na, siawns?

PostioPostiwyd: Gwe 24 Tach 2006 3:03 pm
gan sian
nicdafis a ddywedodd:Ddim yn gweld pwynt Cymreigio enwau, oni bai bod fersiwn Cymraeg mewn defyndd eisioes (Harri yr Wythfed, e.e.).

Ond mae gan Wikipedia ei broses ei hunan am sorto pethau fel hyn mas - well i ti godi'r pwynt fan'na, siawns?


Dw i'n meddwl bod rhyw drefn lle mae enwau brenhinoedd yn cael eu Cymreigio ar ôl iddyn nhw gael eu coroni.

O ran enwau eraill pobl hanesyddol - dw i'n meddwl bod tuedd i Seisnigo lot o enwau e.e. Guy Fawkes - i raddau, mae'n well i ni ddefnyddio'r enw gwreiddiol neu enw Cymreigaidd na'r enw Saesneg ond mae hyn yn gallu bod yn ddryslyd gyda chymeriadau llai adnabyddus.
e.e. wrth gwglo Catherine Parr ti'n cael Catharina a Katharina - felly pam dim Catrin? Wel, dw i ddim yn gwbod chwaith.

PostioPostiwyd: Gwe 24 Tach 2006 6:12 pm
gan Blewyn
Cytuno efo'r ddadl yma - mae enwau pobl yn bersonol, a ni ddylid eu cyfieithu. Mae gas gen i ddarllen am y Tywysog Siarl - Charles ydy enw'r boi, ddim Siarl.

PostioPostiwyd: Sad 25 Tach 2006 12:27 pm
gan jammyjames60
Mi wnaeth Shakespeare ei wneud efo Llywelyn, felly, pam ddim!? Cario 'mlaen y traddodiad! 8)

PostioPostiwyd: Llun 27 Tach 2006 10:43 am
gan nicdafis
Oedd Shakespeare yn sgwennu 400 mlynedd yn ôl, ac mae tuedd o Seisnigo enwau Cymraeg bron â bod wedi diflannu - prin iawn ti'n clywed pethau fel "Owen Glendower" y dyddiau 'ma a oedd yn ddigon cyffredin hanner can mlynedd yn ôl.

Dw i'n derbyn pwynt Sian, ac mae'n siwr bod 'na mwy o enwau Cymraeg dw i ddim yn gyfarwydd â nhw, ond dw i wedi sylwi bod <i>dysgwyr</i> Cymraeg yn hoff iawn o Gymreigio enwau priodol Saesneg.

Fydden ni ddim yn wneud hyn gyda Cymry - does neb yn sôn am yr hanesydd Siôn Dafydd neu'r canwr roc Dafydd Iorwerth, oni bai eu bod yn wneud jôc am y peth.

'Swn i wedi dod ar draws y dudalen yna am Catherine Parr, heb weld yr edefyn yma, a gweld bod plentyn 'da hi o'r enw Mair Seymour, byddwn i wedi cymryd bod ei gwr Thomas Seymour yn Gymro, yn lle <a href="http://en.wikipedia.org/wiki/Thomas_Seymour,_1st_Baron_Seymour_of_Sudeley">uchelwr o Sais</a>.

Mae Wicipedia i fod yn wyddoniadur...

Fel awgrymais i uchod, nid hwn yw'r lle priodol i ddadlau am hyn.

PostioPostiwyd: Llun 27 Tach 2006 11:08 am
gan nicdafis