Be ma pawb yn cael/ise cael i Dolig?
Postiwyd:
Maw 28 Tach 2006 2:29 pm
gan Gwyn
Newydd neud rhestr i nghariad i, sy'n cael trwbwl achos, medde hi, "ma popeth da ti". Rhestr ddigon diflas yw hi a weud y gwir, jyst CD's (Bat Out of Hell 1, 2, 3, James Bond, Blue Album y Beatles) a DVD's (Peter Kay, Ricky Gervais, 24, Simpsons, Tommy Cooper). Fi'n mynd i weld y Sgarlets v Toulouse hefyd, a falle na i gael crys rygbi Cymru ganddi.
Be ma pawb arall yn cael/ise cael/di gofyn am?
Postiwyd:
Maw 28 Tach 2006 3:29 pm
gan huwwaters
Dwi'n reit fodlon efo be dwi efo, ond ma na 1 neu 2 beth hoffwn i ei gael, ond ma nhw braidd yn 'ormod' i ofyn am, i Nadolig.
Camera SLR digidol. Nikon D80 neu Canon D400.
Keyboard i gysylltu gyda chyfrifiadur (ma hwn yn ddewis mwy ymarferol).
Postiwyd:
Maw 28 Tach 2006 3:50 pm
gan Positif80
Dwi isio'r llysoedd codi'r restraining orders sydd arna i.
Postiwyd:
Maw 28 Tach 2006 3:52 pm
gan Mwnci Banana Brown
huwwaters a ddywedodd:Dwi'n reit fodlon efo be dwi efo, ond ma na 1 neu 2 beth hoffwn i ei gael, ond ma nhw braidd yn 'ormod' i ofyn am, i Nadolig.
Camera SLR digidol. Nikon D80 neu Canon D400.
Cer am y canon, nei di ddim dyfaru!
Postiwyd:
Maw 28 Tach 2006 5:05 pm
gan Sili
Dim presantau i Sili flwyddyn yma blantos, arian yw y nod i fedru prynu un du o'r rhain -
Postiwyd:
Maw 28 Tach 2006 5:24 pm
gan Wierdo
Sut ddiawl ma hwnan sefyll fyny?!
Eniwe, neith Mari ddim gwrthod dim. Dwisho Camera digidol (dwi ddim yn ffysi pa fath, gora ydio, gora ond wnai ddim gwrthod). Dwisho bocset dr who (tihihihi) a ma gin i wishlist amazon reit sylweddol. Sa pres yn handi iawn.
Dwin meddwl fyddain hapus doluig gyda bethbynnag dwin cal!
[gol: wedy gweld y stand yn y llun telyn!]
Postiwyd:
Maw 28 Tach 2006 5:52 pm
gan Al
huwwaters a ddywedodd:Dwi'n reit fodlon efo be dwi efo, ond ma na 1 neu 2 beth hoffwn i ei gael, ond ma nhw braidd yn 'ormod' i ofyn am, i Nadolig.
Camera SLR digidol. Nikon D80 neu Canon D400.
Keyboard i gysylltu gyda chyfrifiadur (ma hwn yn ddewis mwy ymarferol).
Ma'r Canon 400D ar gael am lai na neshi dalu am y 350D yn Ionawr! Diawl!
Postiwyd:
Maw 28 Tach 2006 6:04 pm
gan anffodus
Llyfra dwi isio fwya - lot o rei da o gwmpas leni. Cyfrifiadur 'sa'n dda hefyd - sgin unrywun £500 sydd angan cal gwarad ohono fo?
Postiwyd:
Maw 28 Tach 2006 6:26 pm
gan huwwaters
Sili a ddywedodd:Dim presantau i Sili flwyddyn yma blantos, arian yw y nod i fedru prynu un du o'r rhain -
Ond ma'r amp yn ddu yn barod...
Yn ôl at fy nghamera digidol - nid yn unig byswn i isio'r base, ond fydd lenses yn ffortiwn. Dwisio un fisheye, ond ma hwne'n £400 ar ben ei hun.