Geiriau Tri Mochyn Bach

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Geiriau Tri Mochyn Bach

Postiogan Mr Gasyth » Sul 03 Rhag 2006 12:36 pm

Am ryw reswm, mae mam angen cael gafael ar eiriau 'Tri Mochyn Bach' gan Tony ac Aloma.

Os na rywyn y eu gwybod?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Tegwared ap Seion » Llun 04 Rhag 2006 12:30 am

'Roedd 'na dri mochyn bach efo'i gilydd mewn cwt,
A'u mami wrth ei bodd efo'r tri;
Bob amser dywedai y fam "soch-soch",
Dywedai'r moch bach "wi wi wi".

Rhyw ddiwrnod roedd y tri mochyn bach yn cael sgwrs,
A d'wedodd y mwya' o'r tri;
Mi ddylem bob amser drio dweud "soch-soch",
Mae'n fabïaidd iawn dweud "wi wi wi".

Aeth y tri mochyn bach yn dena' fel crydd,
Truenus oedd golwg y tri;
Y tri oedd yn trio dweud "soch soch soch",
A gwrthod yn lân dweud "wi-wi".

A dyna drueni aeth y moch bach yn sâl,
A marw a wnaeth y tri;
Y tri fu yn trio dweud "soch soch soch",
Ni fedrant yn awr ddweud "wi-wi".

Mae 'na wers yn y stori am y tri mochyn bach,
Gwers bwysig o coeliwch chi ni;
O peidiwch a chi a dweud "soch soch soch",
Pan ddylech chi ddweud "wi wi wi".

O peidiwch a chi a dweud "soch soch soch",
Pan ddylech chi ddweud "wi wi wi".


Paid a gofyn lle ces i nhw! :winc:
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan Mr Gasyth » Llun 04 Rhag 2006 12:23 pm

diolch wa
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Geiriau Tri Mochyn Bach

Postiogan ElinorSian82 » Llun 18 Chw 2008 8:59 pm

oes rhywun da'r actiwal chwedl! pa mor anodd i chi'n credu yw e i gal gafel arno?! anodd y diawl!! diolch xx
ElinorSian82
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 54
Ymunwyd: Maw 04 Hyd 2005 9:45 am


Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 24 gwestai