Am ryw reswm, mae mam angen cael gafael ar eiriau 'Tri Mochyn Bach' gan Tony ac Aloma.
Os na rywyn y eu gwybod?
Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd
'Roedd 'na dri mochyn bach efo'i gilydd mewn cwt,
A'u mami wrth ei bodd efo'r tri;
Bob amser dywedai y fam "soch-soch",
Dywedai'r moch bach "wi wi wi".
Rhyw ddiwrnod roedd y tri mochyn bach yn cael sgwrs,
A d'wedodd y mwya' o'r tri;
Mi ddylem bob amser drio dweud "soch-soch",
Mae'n fabïaidd iawn dweud "wi wi wi".
Aeth y tri mochyn bach yn dena' fel crydd,
Truenus oedd golwg y tri;
Y tri oedd yn trio dweud "soch soch soch",
A gwrthod yn lân dweud "wi-wi".
A dyna drueni aeth y moch bach yn sâl,
A marw a wnaeth y tri;
Y tri fu yn trio dweud "soch soch soch",
Ni fedrant yn awr ddweud "wi-wi".
Mae 'na wers yn y stori am y tri mochyn bach,
Gwers bwysig o coeliwch chi ni;
O peidiwch a chi a dweud "soch soch soch",
Pan ddylech chi ddweud "wi wi wi".
O peidiwch a chi a dweud "soch soch soch",
Pan ddylech chi ddweud "wi wi wi".
Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 23 gwestai