Tudalen 1 o 4

"Dwi'n mynd i 'Dre"

PostioPostiwyd: Gwe 22 Rhag 2006 11:42 pm
gan Cawslyd
Jyst wyndro dwi, rôl ryw sgwrs ges i 'chydig nol, lle ydi "'Dre" i chi, hynny ydi, os da chi'n deud "Dwi'n mynd i'r Dre", i le da chi'n mynd?

PostioPostiwyd: Sad 23 Rhag 2006 1:31 am
gan Mali
Wel, pan fyddai'n dweud wrth fy ngwr i mod i'n mynd i'r dre , mynd i Comox fyddai. Fel arfer i wneud ychydig o siopa neu jyst mynd am dro. :)

PostioPostiwyd: Sad 23 Rhag 2006 1:36 am
gan dawncyfarwydd
Mae hwn yn gwestiwn dwys iawn i rywun sydd, fel fi, yn byw rhwng Pwllheli a Chaernarfon. Diolch am ei godi, Cawslyd - er, dwi'n cofio iddo ddod ger ein bron rywbryd o'r blaen.

Yng Ngweriniaeth Rydd Trefor, mae ein cod post a'n cod ffon ni yn rhai Caernarfon - LL54 a 01286. Mi ydan ni hefyd - os ydach chi am ddiystyru'r ffaith fod Trefor yn wlad go iawn - yn Arfon, yng nghwmwd Uwch-Gwyrfai.

Ond yn awdurdod Dwyfor oedden ni, dan yr hen drefn. Ac yn etholiadau'r flwyddyn nesaf, yn etholaeth Dwyfor-Meirionnydd y byddwn ni, ac nid yn etholaeth Arfon.

Dyna'r ffeithiau concrid yn eu lle. Ond beth am y Bobol? O'm rhan i fy hun, dwi mewn penbleth fawr. Lle bynnag yr ydach chi yng Nghymru, Caernarfon ydi "Dre". Mae hynna'n ddisyfl yng ngrym y lli. Ac mi o'n i - gan mod i o fewn pellter cymharol fychan i'r dref chwedlonol honno - yn fodlon arddel yn gryf mai dyna Dre, a'r unig Dre.

Erbyn hyn, dwi ddim mor sicir. Dwi'n fodlon deud ar goedd erbyn hyn mai Pwllheli ydi'r dref fwya cyffrous yng Nghymru o ran ei datblygiad a'i Chymreictod. Ia, dyma'r dre lle mae Bon Marche am gau yn fuan. Ia, dyma'r dre lle'r agorodd craith fawr biws o'r enw ASDA yn ddiweddar. Ond dyma'r lle mae, o ran siopau, nifer o lefydd drud ond neis wedi agor yn ddiweddar. Dyma'r lle sy'n dod yn ddiniwed up-market. Dyma lle sy wedi cychwyn ar gyfnod cyffrous o ran ei chrefydd, dwi'n siwr, efo gweinidog newydd na all fyw yn ei groen ei hun o ran peidio rhannu'r efengyl. Dyma gartre'r adain honno o Goleg Meirion-Dwyfor sydd wedi cyflwyno'n ddiweddar Frodyr trwy Waed mewn modd a ddygodd f'anadl a'm rhyfeddu - y coleg lle mae hufen ysgolion Eifionydd, Harlech, Glan-y-Mor, Blaenau, Botwnnog ac ati'n cael cyfuno i wneud cyfraniad eithriadol o bwysig i ddyfodol ein cenedl ni. Pwllheli ydi'r dre agosa i Dy Newydd Sarn.

Gorffwysaf f'achos.

Caernarfon ydi Dre'r chwedloniaeth. Pwllheli ydi Dre'r chwedlonieth sydd yn cael ei chreu rwan hyn.

PostioPostiwyd: Sad 23 Rhag 2006 10:42 am
gan Hogyn o Rachub
Er nad oes gwir gysylltiad gennyf i gyda'r lle'r mi ddadleua' i'n binc mae Caernarfon ydi'r unig 'Dre' (yn sicr y 'Dre' 'D-fawr'). Asu, ma pobl Dyffryn Conwy yn galw Llanrwst yn dre, sy jyst yn profi y gelli di alw rwla'n dre.

Na, Dre oedd ac yw a bydded Caernarfon. Er, ma'n rhaid imi ddweud pan dw i lawr yng Nghaerdydd bydda i'n dweud 'mynd i dre' i olygu myned canol y ddinas!

PostioPostiwyd: Sad 23 Rhag 2006 11:05 am
gan Fflamingo gwyrdd
Hogyn o Rachub a ddywedodd:pan dw i lawr yng Nghaerdydd bydda i'n dweud 'mynd i dre' i olygu myned canol y ddinas!


Snap

PostioPostiwyd: Sad 23 Rhag 2006 12:05 pm
gan huwwaters
Dre i mi ydi Abergele. Er, fydd nifer o fy ffrindie'n galw Llandudno yn 'dre'.

Dwi hefyd yn gwbad bod nifer o deulu a ffrindie o ogledd dwyrain pell Cymru yn cyfeirio at Wrecsam fel 'dre'.

Fel HoRach, pan yn Nghaerdydd byddai'n cyfeirio at fynd i'r canol fel 'mynd i ganol y dre'.

PostioPostiwyd: Sad 23 Rhag 2006 12:16 pm
gan Ramirez
Pwllheli 'de.

PostioPostiwyd: Sad 23 Rhag 2006 12:20 pm
gan krustysnaks
Pan dwi adre, dre = Aberystwyth.

Pan dwi'n y coleg, dre = tu allan i furiau'r coleg.

PostioPostiwyd: Sad 23 Rhag 2006 1:02 pm
gan Dai dom da
Aberteifi, ond ambell waith hefyd, fydd lot yn cynnwys fi yn wso 'town'.

PostioPostiwyd: Sad 23 Rhag 2006 6:17 pm
gan garynysmon
Dwi'n casau'r ffaith fod Caernarfon wedi hijackio'r enw 'Dre'. Tan oeddwn i yn 16 yn cychwyn yng Ngholeg Menai, doeddwn heb siarad a Cofi yn iawn hyd y gwn i, a Caergybi oedd Dre i mi heb os.

Mae gan bawb ddiffiniad eu hunain o Dre. Mae gen i fet o Talwrn, a Llangefni ydi Dre i hwnnw. Bangor ydi Dre i bobol Llandygai mashwr a.y.b

Caergybi ydi 'Dre'.