"Dwi'n mynd i 'Dre"

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Postiogan garynysmon » Sad 23 Rhag 2006 6:21 pm

Ar nodyn gwahanol, ond ddigon tebyg am wn i, mae gan bobol Llanerch-y-medd hen habit annifyr o alw eu pentref yn 'Llan'. Dwnim os ydych chi'n gyfarwydd hefo enwau hynod ddifyr pentrefi gogledd-orllewin Ynys Mon, ond mae gynnoch chi Llanddeusant, Llanfachraeth, Llanfaethlu, Llanynghenedl, Llanfwrog, ond o fewn tafliad carreg.

'Llan' wir :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Postiogan Gareth » Sad 23 Rhag 2006 7:04 pm

Dwi'n dod yn wreiddiol o Fangor, ac yn dal i fyw yno - ond wedi gweithio yng Nghaernarfon ers blynyddoedd. Os dw i'n mynd "i dre", dwi'n mynd i Gaernarfon, ond os dw i'n mynd "i lawr dre", dwi'n mynd i Fangor! Technicality, ella - ond mae'r ddau'n wahanol am ryw reswm.
Rhithffurf defnyddiwr
Gareth
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 8
Ymunwyd: Gwe 22 Gor 2005 10:23 am
Lleoliad: Bangyr Ai

Postiogan Hogyn o Rachub » Sad 23 Rhag 2006 7:35 pm

garynysmon a ddywedodd:Ar nodyn gwahanol, ond ddigon tebyg am wn i, mae gan bobol Llanerch-y-medd hen habit annifyr o alw eu pentref yn 'Llan'. Dwnim os ydych chi'n gyfarwydd hefo enwau hynod ddifyr pentrefi gogledd-orllewin Ynys Mon, ond mae gynnoch chi Llanddeusant, Llanfachraeth, Llanfaethlu, Llanynghenedl, Llanfwrog, ond o fewn tafliad carreg.

'Llan' wir :rolio:


Meid iw, mae llwyth o ardaloedd gyda'u 'Llans' gwahanol a byddan nhw'n defnyddio 'Llan' i gyfeirio at lefydd - yn Nyffryn Ogwen 'Llan' ydi Llanllechid, ond o be dw i wedi gweithio allan mae pobl Dyffryn Nantlle yn cyfeirio at Llanllyfni pan yn deud 'Llan' - lot o bobl yn dweud o am Lanuwchllyn hefyd, ndydyn??
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Mr Gasyth » Sad 23 Rhag 2006 7:55 pm

"Dre" ydi pa bynnag dre ma rhywyn yn byw ynddi neu wrthi. Lol wirion ydi'r honiad fod Caernarfon rywsut a fwy o hawl ar yr enw.

Rownd ffordd hyn bydd bobl yn deud 'Llan' am bentref Nantglyn!
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Sad 23 Rhag 2006 10:37 pm

Erm, so Caernarfon yn sownd a'r teitl 'Dre' trwy Cymru gyfan. Fi'n mynd i Dre yn aml, ond unweth fi di bod i Gnarfon.

Dre i fi yw Abertawe, ac i phawb arall rownd ffor' hyn. Sy'n neud sens, gan bod fi'n byw lan top Cwm Tawe.
Pan o ni'n byw yn Caerdydd, Dre odd yn dal i feddwl Abert'we.
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Postiogan Dan Dean » Sul 24 Rhag 2006 5:06 am

Dawncyfarwydd yn rhoi ateb hollol wych fel y disgwyl.

Ond cwestiwn gwirion fel edefyn.
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Sioni Size » Sul 24 Rhag 2006 5:24 am

Nadi dio ddim. Roedd dy gefndryd o Llanberis a'r cyffuniau yn methu dallt 'dre' a ninnau'n son am Bwllheli, a feis fyrsa ninnau am Gaernarfon. Dyna pryd rodd rhaid sylwi nad gair arall am Pwllheli oedd 'dre', a tithau'n 25. A mae na rwbath hydnoed mwy cynhenid am air cyffiniau Cnarfon am eu canolfan nhw na ninnau yng nghyffiniau dre Pwllheli. Am ryw reswm. Ta beth, yr unig ymateb i...
Erbyn hyn, dwi ddim mor sicir. Dwi'n fodlon deud ar goedd erbyn hyn mai Pwllheli ydi'r dref fwya cyffrous yng Nghymru o ran ei datblygiad a'i Chymreictod. Ia, dyma'r dre lle mae Bon Marche am gau yn fuan. Ia, dyma'r dre lle'r agorodd craith fawr biws o'r enw ASDA yn ddiweddar. Ond dyma'r lle mae, o ran siopau, nifer o lefydd drud ond neis wedi agor yn ddiweddar. Dyma'r lle sy'n dod yn ddiniwed up-market. Dyma lle sy wedi cychwyn ar gyfnod cyffrous o ran ei chrefydd, dwi'n siwr, efo gweinidog newydd na all fyw yn ei groen ei hun o ran peidio rhannu'r efengyl. Dyma gartre'r adain honno o Goleg Meirion-Dwyfor sydd wedi cyflwyno'n ddiweddar Frodyr trwy Waed mewn modd a ddygodd f'anadl a'm rhyfeddu - y coleg lle mae hufen ysgolion Eifionydd, Harlech, Glan-y-Mor, Blaenau, Botwnnog ac ati'n cael cyfuno i wneud cyfraniad eithriadol o bwysig i ddyfodol ein cenedl ni. Pwllheli ydi'r dre agosa i Dy Newydd Sarn.

ydi
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Geraint » Sul 24 Rhag 2006 2:49 pm

Wel, gan mod i o y Drenewydd, hwnna yw Dre i me. Ond 'Town' fydd pawb yma yn ei alw.

Os gall Caernarfon dadlau mae hwnna yw 'Y Dre', efallai alle ni'n ddadle mae Y Drenewydd/Newtown yw 'The Town', gan ei fod yn rhan o'r enw.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Cawslyd » Sul 24 Rhag 2006 6:00 pm

Ma'n rhyfadd i fi, achos yn cyn i fi gychwn coleg ym Mhwlleli, Tremadog oedd 'Dre' i fi, ond bellach (ar ôl 3 mis yn Coleg), ma Pwllheli wedi cipio'r teitl a'r anrhydedd yna. Dyna pam o'n i'n gofyn rili, jyst yn wyndro llu.
Cawslyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1832
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 6:43 pm

Postiogan ffrwyth melys! » Sul 24 Rhag 2006 9:59 pm

Cnafron, a Chnafron yn unig :)
Rhithffurf defnyddiwr
ffrwyth melys!
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 205
Ymunwyd: Maw 01 Tach 2005 9:24 pm
Lleoliad: Caernarfon

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron