Tudalen 3 o 4
Postiwyd:
Sul 24 Rhag 2006 10:11 pm
gan xGeshaPwy?!x
Ia Tremadog odd "Dre" i minna ers pan onin blentyn bach hefyd, ond mi newidiodd hynny wedi mynd i goleg Pwllheli. Ma'n anodd gwbod weithia am ba dre ma riwun yn son, gan bod Caernarfon, Pwllheli, a Tremadog yn rwla swnin alw'n "dre"! Pwnc trafod diddorol iawn os gai ddeud!!
Postiwyd:
Sul 24 Rhag 2006 11:42 pm
gan Sili
Pwllheli.
Er, pan oni'n chweched Dyffryn Nantlle, yn aml odd "mynd i dre" yn golygu "mynd i Gaernarfon". A weithia, ma "mynd i'r dre" yn golygu piciad i ganol Gaerdydd am sbel.
Ond na, Pwllheli di'r dre i mi.
Postiwyd:
Maw 26 Rhag 2006 10:49 am
gan garypritch
garynysmon a ddywedodd:Caergybi ydi 'Dre'.
Yn hollol!
Postiwyd:
Maw 26 Rhag 2006 1:34 pm
gan Madrwyddygryf
Pan o'n ni yn byw yn New Jersey, os oeddem yn bwriadu mynd i ynys Manhattan oeddwn i a fy ffrindiau yn dweud
'Going to Town'.
Postiwyd:
Iau 11 Ion 2007 11:30 pm
gan Mr X
Ond un Dre go iawn sy na- sef prifddinas yr iaith Gymraeg- G'narfon!
Postiwyd:
Gwe 12 Ion 2007 12:05 am
gan Huw Psych
Os dwi'n Llangefni "mynd i stryd" fydda i, os dwi'ng Nghaerdydd "mynd i dre" am ganol y ddinas, ond beryg for "mynd i 'Dre" yn golygu bod fi'n mynd i Ganavyrn!
Postiwyd:
Gwe 12 Ion 2007 12:23 am
gan Dylan
Caernarfon i fi, ond dim ond gan mai yma 'dw i'n digwydd byw. Taswn i'n dod o Fangor neu Wrecsam neu Hwlffordd neu Lanbidibidlan yna rheiny fyddai "dre" wedyn am wn i. Pan o'n i'n coleg yng Nghaerdydd, "dre" oedd, wel, canol y ddinas.
ond 'dw i'n siwr bod o'n anos os ti'n byw mewn pentre' rhwng dwy dref
Postiwyd:
Gwe 12 Ion 2007 1:52 pm
gan ceribethlem
Abertawe yw mynd i Dre nawr. Caerfyrddin oedd e' sbel nol pan o'n i adre.
Postiwyd:
Gwe 12 Ion 2007 1:58 pm
gan garynysmon
Huw Psych a ddywedodd:Os dwi'n Llangefni "mynd i stryd" fydda i, os dwi'ng Nghaerdydd "mynd i dre" am ganol y ddinas, ond beryg for "mynd i 'Dre" yn golygu bod fi'n mynd i Ganavyrn!
Dwi di sylwi hynny am bobol aeth i Ysgol Llangefni 'fyd.
Postiwyd:
Sul 14 Ion 2007 5:15 pm
gan Mr X
Dwi wedi byw mewn sawl lle gwahanol- ond rhaid cyfaddef taw ond un Dre sy na i mi.
Ynglyn a lle dwi'n byw nawr- efallai y byddaf yn mynd i "ganol y ddinas"- ond byth i Dre.