gan SbecsPeledrX » Maw 02 Ion 2007 3:35 pm
Fedri di neud yn well ING? Fansi sbot open mike os gai noson at ei gilydd? Dwi'n meddwl mai yng Nghaerfyrddin nai gynta, so fydd pawb yn deall ti'n siarad sy'n ddechrau da.
Roedd y Prics yn ddoniol iawn oni'n meddwl. Sa hwna'n eitha da ar lwyfan. Ond ar hyn o bryd does llnembyd i bethau felna cael llwyfan. Felly dyna pam dwi am drio trefnu noson gomedi - dau act, ac un open mike. Be dech chi'n ei feddwl folks?
A brysiwch efor syniadau.
Dwi di gweld ffarmwr ffowc yn neud set byw i dorf eitha ifanc. Ond doni ddim rili yn meddwl llawer ohono fo - er gath o ymateb eitha da, eto dwi'n siwr sa fo'n codi bach yn fwy na fedrai fforddio talu ar hyn o bryd.
Rhys - fedri di danfon neges i mi faint oedd cost yr acts ti di'w henwi. Dwi'm rili isio run ohonyn nhw - anodd i digrifwyr llai noson lawenaidd plesio'r dorf bydde rheini yn eu tynnu am wn i.