Tudalen 1 o 5

Comedi Cymraeg.

PostioPostiwyd: Maw 02 Ion 2007 2:03 pm
gan SbecsPeledrX
Oes unrhywun wedi gweld stand yp Cymraeg da, neu act doniol yn ddiweddar. Dwi'm yn son am y shit hicks yn gwisgo fatha merched sydd ar noson lawen ond stweff sy'n ddoniol yn y byd go iawn.

Welish i Siani Flewog yn Steddfod Caernarfon, a clywed band doniol hefyd. Ma Tudur Owen di neud i mi chwerthin, ond mae'r noson lawen a "gala" y ffermwyr ifanc yn gneud i mi estyn am y Valium. Dwi eisiau trio rhoi cwpl o nosweithia comedi ymlaen - dech chi di gweld unrhywun aru neud i chi chwerthin? Nai eu gwahodd nhw i gymryd rhan.

PostioPostiwyd: Maw 02 Ion 2007 2:49 pm
gan CORRACH
Welis i noson nos wener ddwytha efo Tudur Owen a Ffarmwr Ffowc. Roedd y lle llawn pobl canol oed rili, so dwim yn siwr at bwy mae'r act's ma fod i apelio. Mi oedd Tudur Owen reit ddoniol ac yn dod fyny fo dipyn o betha gwreiddiol heb fynd dros y top efo'r "dwinpissedoff-gwranda-arnafinrantio". Ac maen syndod pam bod y gair "nicyrs" yn gwneud i hen ferchaid chwerthin bob tro mae boi di gwisgo fel ffarmwr yn ei ddeud o. Yn anffodus.

Noson iawn oedd hi, ond mae'n anodd dianc rhag yr agwedd "noson lawen", mae'r ddau gomedian uchod wedi cael sylw trwy'r rhaglen neu S4C, felly fysa ti ddim yn deud bod nhw'n "gwthio ffiniau". dwin teimlo bod comedi Cymraeg, fel lot o bethau Cymraeg eraill yn "saff".

Dwi'n meddwl fod lot mwy o bobl yn gomedians "go iawn" fel ma Sbecs yn eu galw, jyst nad ydyn nhw yn mynd ati i berfformio'n gyhoeddus. mae eraill yn perfformio, ond dydi'r sioeau ddim i weld yn eang eu hapel, efallai ddim yn cael eu hybu digon ymysg y gynulleidfa ieuengach.

PostioPostiwyd: Maw 02 Ion 2007 3:02 pm
gan Rhys
Dwi heb fod i un fy hun, ond mu fi cyfres o nosweithiau 'Poncho' yn Chapter Caerdydd gyda stand ups Cymraeg (aelod maes-e yn un ohonynt)

Nai adael ti wybod sut aiff Noson Gomedi ni am drefnu yng Nghaerffili mis Mawrth gyda Daniel Glyn, Gary Slaymaker a Tudur Owen.

PostioPostiwyd: Maw 02 Ion 2007 3:24 pm
gan Iesu Nicky Grist
:ofn: 'Tudur Owen' a 'comedi' yn yr un frawddeg. :ofn:

JEEEEEEEEZAS, BODDWCH Y FFYCYRJAWL!

PostioPostiwyd: Maw 02 Ion 2007 3:35 pm
gan SbecsPeledrX
Fedri di neud yn well ING? Fansi sbot open mike os gai noson at ei gilydd? Dwi'n meddwl mai yng Nghaerfyrddin nai gynta, so fydd pawb yn deall ti'n siarad sy'n ddechrau da.

Roedd y Prics yn ddoniol iawn oni'n meddwl. Sa hwna'n eitha da ar lwyfan. Ond ar hyn o bryd does llnembyd i bethau felna cael llwyfan. Felly dyna pam dwi am drio trefnu noson gomedi - dau act, ac un open mike. Be dech chi'n ei feddwl folks?

A brysiwch efor syniadau.

Dwi di gweld ffarmwr ffowc yn neud set byw i dorf eitha ifanc. Ond doni ddim rili yn meddwl llawer ohono fo - er gath o ymateb eitha da, eto dwi'n siwr sa fo'n codi bach yn fwy na fedrai fforddio talu ar hyn o bryd.

Rhys - fedri di danfon neges i mi faint oedd cost yr acts ti di'w henwi. Dwi'm rili isio run ohonyn nhw - anodd i digrifwyr llai noson lawenaidd plesio'r dorf bydde rheini yn eu tynnu am wn i.

PostioPostiwyd: Maw 02 Ion 2007 3:40 pm
gan penn bull
Ma Tudur yn iawn. Dwi di mwynhau o'n fyw. A ma Leslie Wyn off Mawr yn superb

Bedwyr Williams di'r dyn tho

Rhan 1
Rhan 2

Un yn Saesneg

PostioPostiwyd: Maw 02 Ion 2007 3:42 pm
gan SbecsPeledrX
Penn Bull, sgen ti manylion cyswllt?

Fedri di eu danfon i fi mewn NB os tishio.

PostioPostiwyd: Maw 02 Ion 2007 3:49 pm
gan penn bull

PostioPostiwyd: Maw 02 Ion 2007 7:12 pm
gan løvgreen
Bedwyr arall sydd hefyd yn ddoniol iawn ydi Bedwyr Rees. Nath o sioe ddigri iawn yn Clwb Rygbi Cnarfon ryw fis yn ol efo Tudur Owen yn actio PC Leslie Wyn a Daniel Glyn (comic jinius) yn cyflwyno. Roedd Beth Angell yn ddoniol hefyd ar yr un noson. Ac oedd y clwb yn llawn dop!

PostioPostiwyd: Maw 02 Ion 2007 9:26 pm
gan Madrwyddygryf
CORRACH a ddywedodd:Welis i noson nos wener ddwytha efo Tudur Owen a Ffarmwr Ffowc. Roedd y lle llawn pobl canol oed rili, so dwim yn siwr at bwy mae'r act's ma fod i apelio. Mi oedd Tudur Owen reit ddoniol ac yn dod fyny fo dipyn o betha gwreiddiol heb fynd dros y top efo'r "dwinpissedoff-gwranda-arnafinrantio". Ac maen syndod pam bod y gair "nicyrs" yn gwneud i hen ferchaid chwerthin bob tro mae boi di gwisgo fel ffarmwr yn ei ddeud o. Yn anffodus.

Noson iawn oedd hi, ond mae'n anodd dianc rhag yr agwedd "noson lawen", mae'r ddau gomedian uchod wedi cael sylw trwy'r rhaglen neu S4C, felly fysa ti ddim yn deud bod nhw'n "gwthio ffiniau". dwin teimlo bod comedi Cymraeg, fel lot o bethau Cymraeg eraill yn "saff".

Dwi'n meddwl fod lot mwy o bobl yn gomedians "go iawn" fel ma Sbecs yn eu galw, jyst nad ydyn nhw yn mynd ati i berfformio'n gyhoeddus. mae eraill yn perfformio, ond dydi'r sioeau ddim i weld yn eang eu hapel, efallai ddim yn cael eu hybu digon ymysg y gynulleidfa ieuengach.


Ond ar y llaw arall, hwyrach mai rhywbeth gyda natur hiwmor Cymraeg sydd yn anodd i'w gyfieithu mewn i 'stand-up'. Mi es i noson stand-yp Cymraeg rhai misoedd yn ol. Dwi'n cofio son amdano fo i ferch Cymraeg iaith gyntaf yn gwaith a dyma hi'n rhoi wfft i'r syniad gan meddwl mai rhywbeth fel Noson Lawen bydd o.

Dwi'n credu bod dweud Cymru Cymraeg ddim yn gallu gwneud 'stand-yp', fel dweud bod yr Almaenwyr chwaith ddim yn gallu gwneud 'stand-yp'. Nid achos bod ni ddim yn gallu gwneud ond achos dio ddim yn rhan o'r diwylliant