gan garynysmon » Mer 03 Ion 2007 9:02 pm
Fe esh i weld noson standup yn Wellmans Llangefni adeg gwyl Cefni 2005, a roedd o'n un o'r nosweithia mwya doniol i mi fod iddynt erioed, boed yn Gymraeg neu Saesneg. Tudur Owen, Ffarmwr Ffowc, Beth Angell a Dyff Pobol y Cwm oedd y perfformwyr. Am fod Tudur Owen o Sir Fon a bob dim roedd y noson yn gweithio'n wych, jocs am bobol a pethau lleol a cenedlaethol. Pethau fysa S4C byth yn gallu darlledu a deud gwir.
|