Tudalen 2 o 5

PostioPostiwyd: Mer 03 Ion 2007 1:37 am
gan dafyddpritch
Madrwyddygryf a ddywedodd:Dwi'n credu bod dweud Cymru Cymraeg ddim yn gallu gwneud 'stand-yp', fel dweud bod yr Almaenwyr chwaith ddim yn gallu gwneud 'stand-yp'. Nid achos bod ni ddim yn gallu gwneud ond achos dio ddim yn rhan o'r diwylliant


Dwn i'm am hyn. Be am hosts nosweithia llawen (nid jysd ar y teledu)? Dwi ddim yn eu gweld nhw yn ddoniol ond ma nhw yn stand-yp dydi? Ella bod ni (Cymry Cymraeg) yn rhy boleit i hecklo comedians pan ma nhw mor amlwg yn rybish, a hyd yn oed chwerthin er nad yda ni yn
teimlo fel gwneud. Y chances ydi fod rhan fwyaf o unrhyw gynulleidfa mewn noson lawen (eto, nid jysd cyfeirio at y raglen deledu ydw i) yn ei nabod y cradur ac felly yn teimlo 'baich' i o leia giglo ar y jôc fwyaf cachlud.

Ond o ran comediwyr doniol. Oni mewn noson stand-yp Cymraeg yn y Glee Club Caerdydd flwyddyn ddiwetha, wedi ei threfnu gan Gyngor Gwynedd (!!!) a nesi chwerthin yn wirioneddol trwy ddwy set Tudur Owen a mi odd un Bedwyr Rees (ex cyflwynydd Uned 5) yn dda iawn hefyd. A mi odd y ddau hefo set ar ddechra'r noson - cyn i fi yfed digon i amharu ar yn hiwmor i.

Odd Ffarmwr Ffowc (odd yn cloi y noson) yn crap, Noson Lawen (Teledu!) ydi ei le o a dodd y dynwaredwr (fo off c'nex, dwi'm yn cofio ei enw) fawr gwell. Odd Dyff Pobl y Cwm yn cyflwyno fel Bownsar ond rodd o yn tu hwnt o crap.

Tudur Owen a Bedwyr Rees yn dda! :lol: :winc:

PostioPostiwyd: Mer 03 Ion 2007 8:51 am
gan Iesu Nicky Grist
SbecsPeledrX a ddywedodd:Fedri di neud yn well ING?

Fuck aye

SbecsPeledrX a ddywedodd:Fansi sbot open mike os gai noson at ei gilydd?

Fuck off you shit peddler! :lol:

PostioPostiwyd: Mer 03 Ion 2007 1:00 pm
gan SbecsPeledrX
Gret petha'n dechrau siapio ochr yma. Os oe sgan uynrhywun cyfeiriadau neu rhifau ffon cyswllt i'r bobl dech chi'n enwi, newch chi eu danfon ataf drwy NB. Ac oes unrhywun yn deall ING?

PostioPostiwyd: Mer 03 Ion 2007 2:16 pm
gan Rhodri Nwdls
SbecsPeledrX a ddywedodd:Ac oes unrhywun yn deall ING?

Sun Ra

PostioPostiwyd: Mer 03 Ion 2007 5:22 pm
gan fela mae
ti sbecs yn neud stand up yn nhy newydd sarn tua dwy flynedd yn ol ydy'r comedi gore dwi di gweld yn y gymraeg erioed...gan gyflwyno tudur owen fel y boi greodd condoms ???? :? chwarae teg ma rhaid i bawb ddechrau yn rhywle oedd ymateb tudur owen pan ddaeth ar y llwyfan! Roedd hynna'n dweud y cyfan :!:

PostioPostiwyd: Mer 03 Ion 2007 9:02 pm
gan garynysmon
Fe esh i weld noson standup yn Wellmans Llangefni adeg gwyl Cefni 2005, a roedd o'n un o'r nosweithia mwya doniol i mi fod iddynt erioed, boed yn Gymraeg neu Saesneg. Tudur Owen, Ffarmwr Ffowc, Beth Angell a Dyff Pobol y Cwm oedd y perfformwyr. Am fod Tudur Owen o Sir Fon a bob dim roedd y noson yn gweithio'n wych, jocs am bobol a pethau lleol a cenedlaethol. Pethau fysa S4C byth yn gallu darlledu a deud gwir.

PostioPostiwyd: Iau 04 Ion 2007 11:46 am
gan SbecsPeledrX
garynysmon a ddywedodd:Am fod Tudur Owen o Sir Fon a bob dim roedd y noson yn gweithio'n wych, jocs am bobol a pethau lleol a cenedlaethol. Pethau fysa S4C byth yn gallu darlledu a deud gwir.


Ond dyna'n union bron be sy'n bod ar comedi Cymraeg ar lwyfan. Rhaid i ti nabod y person ar y llwyfan i ddalt yr "in jokes", neu son am bobl a byd bach - hiwmor ddim yn teithio'n dda. Dyna pam ma ffermwyr ifanc yn meddwl fod o'n ddoniol gwisgo fatha dynes efo balloons fel tits neu actio bach yn camp. Achos "ohhhhh typical fo - mae o'n laff tydi?".

NADI!

PostioPostiwyd: Iau 04 Ion 2007 12:16 pm
gan garynysmon
Yn hollol. Ond dim comedi felly oedd o, o gwbl. Ond dwi yn cytuno fod y busnes 'byd bach' ma yn wir. Falla fysa son am prats oedd yn carnifalau a 'gangs' Ynys Mon ddim am weithio mewn llefydd eraill.

PostioPostiwyd: Iau 04 Ion 2007 2:07 pm
gan margiad ifas
Fues i mewn noson gomedi yn Ffwti yn Aber tua blwyddyn nôl ag odd Bedwyr Rees yn hollol hollol wych, Beth Angell hefyd yn y run league!

PostioPostiwyd: Iau 11 Ion 2007 2:40 pm
gan dilwyn-pierce
dwi wedi bod yn cynnal gweithdai stand up ers blynyddoedd a mae genna'i un yn hyfenfa llandyrnog ar mawrth y 1af am 8.00yh ,croeso i chi ddod draw , pwy a wyr ella ddysgwch chi rwbath,
(nath o ddim drwg i ffarmwr ffowc)