Tudalen 3 o 5

PostioPostiwyd: Gwe 12 Ion 2007 10:37 am
gan dilwyn-pierce
dipyn o ddiddordeb yn y gweithdy stand up dwi'n neud trwy'r corff "noson o hwyl" nesaf yn llandyrnog felly dyma'r manylion:

HYFENFA LLANDYRNOG
DINBYCH
8.00 Y.H

MAWRTH 1AF 2007

DIM COST MYNEDIAD
BYDD CAWS A GWIN AR WERTH DRWY'R NOSON

MYND YMLAEN TAN TUA 11.00YH

CROESO I BAWB

PostioPostiwyd: Gwe 12 Ion 2007 10:45 am
gan Prysur
Ma gin i gryn ddiddordeb yn y gweithdy ond mae gennyf lond ty o ddysgwyr yn aros yr adeg yna. Fysa hi'n bosib i nhw ddod gyda mi?

PostioPostiwyd: Gwe 12 Ion 2007 11:00 am
gan Griff-Waunfach
SbecsPeledrX a ddywedodd: Dyna pam ma ffermwyr ifanc yn meddwl fod o'n ddoniol gwisgo fatha dynes efo balloons fel tits neu actio bach yn camp. Achos "ohhhhh typical fo - mae o'n laff tydi?".

NADI!


Spot on! cytunaf yn llwyr!!!

PostioPostiwyd: Gwe 12 Ion 2007 11:03 am
gan dilwyn-pierce
duwcs tud a nhw 'fo chdi diawl, ddy mor ddy meriyr!!

PostioPostiwyd: Llun 15 Ion 2007 5:06 pm
gan Iesu Nicky Grist
dilwyn-pierce a ddywedodd:(nath o ddim drwg i ffarmwr ffowc)


Nath e'm ffacin lles chwaith. Coc.

PostioPostiwyd: Llun 15 Ion 2007 5:16 pm
gan SbecsPeledrX
Reit ma'r noson standyp wedi'w drefnu.

MC Dewi Fflint
Siani Flewog
Bedwyr Rees


Yr Hen Wine Vaults - venue Comedi hynaf gogledd Cymru. 8.30yh. Nos Sul, Chwefror 18. £2 y tocyn. Dewch yn llu i gefnogi comedi Cymraeg byw. Gallch bwcio tocynnau drwy fy ffonio ar y rhif isod. Mi fydd yn werth trafeilio dwi'n gaddo. Bydd noson gomedi Cymraeg cyson os gallwn denu torf.

Bydd cyfle i'r cyntaf i gysylltu a mi wneud sbot open mic hefyd os ydyn nhw eisiau. Ryw pum munud o stwff - so dewch mlaen. Neges Breifat neu galwad ffon 07977594707.

PostioPostiwyd: Iau 08 Chw 2007 2:54 pm
gan SbecsPeledrX
Hwn yn agosau so oni'n meddwl swn i'n rhoi bwmp iddo fo. Efo'r open Mic rwan bydd 3 aelod o faes-e ar y llwyfan!

Tocynnau wedi mynd yn o lew - tua'u hanner wedi'w gwerthu. Gobeithio am llenwi'r gweddill ar y noson.

Os dech chi am weld comedi Cymraeg yn fynnu, ac yn gallu dwad - dewch!

PostioPostiwyd: Iau 15 Chw 2007 1:58 pm
gan Clwb Ifor Strach
Cofiwch am y noson gomedi yma hefyd!

Yn anffodus ni allai ddod i weld MC Dewi Fflint..bww...wastad croeso yn y brifddinas iddo, tho'!

PostioPostiwyd: Gwe 16 Chw 2007 7:18 pm
gan dilwyn-pierce
hei, bron yn amser am y noson fawr ... teimlo'n nerfus specs?

PostioPostiwyd: Llun 19 Chw 2007 11:12 am
gan SbecsPeledrX
Wel sdim angen bod yn nerfus efo braidd ddim cynulleidfa nacoes? :winc: Dim ond tua 20 oedd yn y gynulleidfa.

Oni di bod rownd tafarndai Treffynnon, ac oni di gwerthu swp o docynnau o flaen llaw, ond dwi'n ame fod rhai pobl wedi eu prynnu jest i gael mi i ffoc off! :lol: Ond ymateb da gan y rhai odd yna, a cwpl o merched di dod fyny ar y diwedd yn diolch, a gofyn pryd ma'r noson nesa. Odden nhw am ddragio'u ffrindiau neithiwr, ond yn ofni fydda fo'n noson lawenaidd ac yn embarassing. Ma nhw'n recno down nhw a griw tro nesaf - cawn weld.