Tudalen 4 o 5

PostioPostiwyd: Llun 19 Chw 2007 1:41 pm
gan Ray Diota
dilwyn-pierce a ddywedodd:ha ffycin ha ddyda i ..dyna pam mae comedians poblogaidd yn llwyddianus, am eu bod yn BOBLOGAIDD h.y POBL isho mynd i weld nhw ...so rho dy gomedi amgen yn dy din a dysgu sut i neud y grefft cyn lladd ar pobl sydd yn gwybod sut.

y matermind ffwc .


pwy sy ishe mynd gynta?

ar ôl ti, sbecs...

PostioPostiwyd: Llun 19 Chw 2007 1:52 pm
gan dilwyn-pierce
dwi'n meddwl ffendi di fod gan sbecs ddim llawer i ddweud ar y pwnc o ladd ar comedians "canol y ffordd" ray ...
corkage not included de sbecs!!

PostioPostiwyd: Llun 19 Chw 2007 1:53 pm
gan garynysmon
Dwi'n meddwl fod maes-e wedi cael sioc gweld rhywyn o Noson Lawen yn dod yma i ateb yn ol ar ol 5 mlynedd o abiws llwyr :winc:

PostioPostiwyd: Llun 19 Chw 2007 2:37 pm
gan SbecsPeledrX
dilwyn-pierce a ddywedodd:...
corkage not included de sbecs!!


Wel dwi ddim hyd noed yn dallt hwna.

Diom ots faint odd yna rili, blaw bod y rhai odd yna di mwynhau. Ac mi wnaethon nhw o be welish i. Wrth gwrs bydde cynulleidfa fawr yn well - ond faint o bobl sy'n troi fyny i gig cynta band den nhw byth di clywed amdani. Be ti'n neud di plesio'r rhai sydd yn dod, fel eu bod yn dod nol, a mwy o bobl efo nhw. Naci?

PostioPostiwyd: Llun 19 Chw 2007 2:39 pm
gan SbecsPeledrX
Gyda llaw. Den ni di trefnu'r noson nesa yn Nhy Newydd, Sarn Mellteyrn, Penllyn. Nos Sadwrn, Mawrth y 10fed.

Mwy o fanylion pan fydd yr hangover di clirio.

A diolch ond odd digon o rai yno odd yn gallu neud y grefft hefyd met. JR yn top ar yr open mic. Caneuon Shiani flewog yn neud i fi chwerthin unwaith eto, a Hedline set Bedwyr yn son am stwff sa'n neud i chdi gochi Dilwyn :winc:

PostioPostiwyd: Llun 19 Chw 2007 2:50 pm
gan S.W.
Noson dda a gafwyd. Dim llawer yno, ond siwr neith hynny wella. Yr Old Wine Vaults yn le da ar gyfer nosweithiau tebyg. Pryd fydd y nesa yn Nhreffynnon gen ti Sbecs?

Y ddau stand up yn ddoniol iawn, y 'Siani Flewog' ddim cystal yn fy marn i (sicr ddim y Kevin Bloody Wilson Cymraeg Sbecs!) ond pawb at ei peth a bo.

PostioPostiwyd: Llun 19 Chw 2007 2:59 pm
gan SbecsPeledrX
Y nesa yn Nhreffynnon yn ystod y Steddfod Gen ma'n siwr. Gai air efo'r landlord i weld os di o isio un arall cyn hynnu, ond fel tin deud - doedd y dorf ddim yn hiwj nacoedd?

PostioPostiwyd: Llun 19 Chw 2007 3:00 pm
gan Cacamwri
Nes i fwynhau'r noson - yn enwedig Siani Flewog :winc:
Ella bo ti'n iawn SW - pawb at y peth a bo.

Yr open mike yn hiawriws, jocs da iawn, ac yn naturiol iawn ar lwyfan.
Teimlo bod yr hedleinyr yn siarad braidd yn gyflym, fel bo fi'n colli rhai o'r punch lines. Ond nes i ddal chwerthin lot...falle mai fi oedd ar fai am fod yn hwntw sydd methu dal fyny gyda gogs yn siarad!

PostioPostiwyd: Llun 19 Chw 2007 3:13 pm
gan S.W.
O bosib bod ti'n iawn am yr headliner yn siarad yn rhy gyflym Cacamwri, oedd y wraig yn cael trafferth ei ddilyn o hefyd gan ei bod hi wedi dysgu'r iaith ond mi wnaeth hi fwynhau.

Sbecs, ti'm yn meddwl bod aros tan y Sdeddfod braidd yn hir i aros am y noson nesa yn Nhreffynnon, cadw rhywfaint o momentwm.

Er dwi'n dallt bod pethau ar fin mynd yn brysur iawn i chdi yn y wythnosau nesaf felly fyny i ti!

PostioPostiwyd: Llun 19 Chw 2007 5:56 pm
gan Ray Diota
dilwyn-pierce a ddywedodd:
dilwyn-pierce a ddywedodd:...
corkage not included de sbecs!!


cyferio oni at UN o'r amryw o negeseuon breifat nes ti yrru i mi yn dangos diddordeb mewn gweithdy comedi ffug oni'n honi drefu yn llandyrnog ar fawrth 1af o dan yr argraff mae Dilwyn pierce y digrifwr oni. mae'n chwerthynllyd dy fod wedi danfon pob neges yn breifat yn hytrach na dangos diddordeb yn y cwrs yn gyhoeddus ac yn engraifft perffaith o'r math o berson sy'n lladd ar pob dim dio ddim yn rhan ohono nes mo'n cael cynnig i fod yn rhan ei hyn.
rhagofn nad wyt yn cofio'r negeseuon ..dyma nhw ....mwynhewch...


... na, ddim rili.

oes job 'da ti dilwyn? neu hobi? jyst rhwbeth i sdopo ti fod cweit mor ddiflas?

sbecs, os drefni di noson gomedi lle mai'r climax yw rhoi pasting i'r boi 'ma... ddoi lan ar y traws cambria o gaerdydd...

ha ffycin ha ddyda i ..dyna pam mae comedians poblogaidd yn llwyddianus, am eu bod yn BOBLOGAIDD h.y POBL isho mynd i weld nhw ...so rho dy gomedi amgen yn dy din a dysgu sut i neud y grefft cyn lladd ar pobl sydd yn gwybod sut.

y matermind ffwc .


ffyyyyc 'na ni de, wath i bawb sdopo trio neud unrhywbeth a gadel i dai llanilar fod ar y teli a'r radio 24/7...