Tudalen 1 o 3

aur cymru wedi rhedeg allan

PostioPostiwyd: Mer 17 Ion 2007 1:26 pm
gan SerenSiwenna
Welish i ar y newyddion diwrnod or blaen fod aur cymru wedi rhedeg allan :ofn:

Fellu cyn bo hir fydd ddim ffordd o cael gafael arni? :crio:

Re: aur cymru wedi rhedeg allan

PostioPostiwyd: Mer 17 Ion 2007 1:34 pm
gan huwcyn1982
SerenSiwenna a ddywedodd:Fellu cyn bo hir fydd ddim ffordd o cael gafael arni? :crio:


Wel ddim o'r ffynhonell - mond trwy brynnu'r aur yn "ail-law".

PostioPostiwyd: Mer 17 Ion 2007 1:43 pm
gan Manon
Nes i glywed bod hyn ar fin digwydd, felly mi wnes i hintio (yn hynod o unsubtle) fy mod i isho rhywbeth wedi ei wneud o aur Cymraeg ar fy mhenblwydd. Nath y ddynas yn y siop ddeud y bydd y prisiau yn codi'n aruthrol cyn hir (ond alla ma' confinsho fi i brynu oedd hi!)

PostioPostiwyd: Mer 17 Ion 2007 2:00 pm
gan SerenSiwenna
Manon a ddywedodd:Nes i glywed bod hyn ar fin digwydd, felly mi wnes i hintio (yn hynod o unsubtle) fy mod i isho rhywbeth wedi ei wneud o aur Cymraeg ar fy mhenblwydd. Nath y ddynas yn y siop ddeud y bydd y prisiau yn codi'n aruthrol cyn hir (ond alla ma' confinsho fi i brynu oedd hi!)


Dyma o ni yn poeni am :ofn:

PostioPostiwyd: Mer 17 Ion 2007 3:13 pm
gan Manon
Mae fy ngwr 'di prynu un o'r rhain i mi:
http://www.clogau.co.uk/product.php?prodID=ILR
Ond nath o gostio llai na hanner hwnna o siop! Falla bod y fodrwy ti isho dal ar gael mewn siop- Mae Siop y Plas yng Nghaernarfon ac Y Gist Aur ym Mangor yn dda.

Mae nhw'n ddrud ond mi fyddan nhw'n werth cymaint mwy yn y dyfodol- Mi fysa fo'n wbath neis i adael i 'mhlant pan 'dwi'n cicio'r bwcad (joli de?!) :rolio:

PostioPostiwyd: Mer 17 Ion 2007 5:45 pm
gan Mali
Manon a ddywedodd:Mae fy ngwr 'di prynu un o'r rhain i mi:
http://www.clogau.co.uk/product.php?prodID=ILR
Ond nath o gostio llai na hanner hwnna o siop! Falla bod y fodrwy ti isho dal ar gael mewn siop- Mae Siop y Plas yng Nghaernarfon ac Y Gist Aur ym Mangor yn dda.

Mae nhw'n ddrud ond mi fyddan nhw'n werth cymaint mwy yn y dyfodol- Mi fysa fo'n wbath neis i adael i 'mhlant pan 'dwi'n cicio'r bwcad (joli de?!) :rolio:


Modrwy ddel iawn Manon! Ond mae'n rhyfeddol gymaint o wahaniaeth sydd 'na rhwng prisiau gwahanol siopau yn ogystal a'r safle we. :? Wedi clywed yn ddiweddar fod 'na brisiau da arnynt yn y Tweedmill ger Llanelwy, ond bod 'na ddim gymaint o ddewis yno erbyn hyn. :(
Seren, sgen ti linc i'r stori gwreiddiol am aur Cymru yn rhedeg allan plîs?

PostioPostiwyd: Mer 17 Ion 2007 6:18 pm
gan nicdafis
Ydy hyn yn golygu bod fy hen fodrwy innau yn werth rhywbeth wedi'r cwbl?

PostioPostiwyd: Mer 17 Ion 2007 7:57 pm
gan Mr Gasyth
Rhedeg allan o le? :?

Sori

PostioPostiwyd: Iau 18 Ion 2007 9:54 am
gan Chip
Mr Gasyth a ddywedodd:Rhedeg allan o le? :?

Sori


Rhywle i'r gogledd dwyrain o cader idris, ma shiny stwff y teulu brenhunol wedi cal ei neud o'r stwff na. Felly gold rush gynta prydain nawr

PostioPostiwyd: Iau 18 Ion 2007 10:30 am
gan Mr Gasyth
Chip a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:Rhedeg allan o le? :?

Sori


Rhywle i'r gogledd dwyrain o cader idris, ma shiny stwff y teulu brenhunol wedi cal ei neud o'r stwff na. Felly gold rush gynta prydain nawr


Goyner gwestiwn dwl debyg... :D