Yoga

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Yoga

Postiogan SerenSiwenna » Llun 22 Ion 2007 11:08 am

Arol trio nifer o 'faddy diets' wnes i ddechrau mynd i ddosbarth Pilates. Wnes i brynnu yoga matt ar cyngor yr athrawes (mae'r ddau yn eithaf tebyg) ac hefo'r matt ddaeth dvd. Wedi trio'r dvd dwi di ffeindio bod o'n helpu fi i rheoleiddio fy mhwysau ac hefyd i ymlacio a teimlo'n fwy hyblig.

O ni'n sidro os oedd yna maeswyr eraill oedd yn mwynhau yoga?

Mi allaf cymerodwyo'r dvds sy gen i, i gyd hefo Rodney Yee. Mae'r un Power yoga yn arbennig o dda. :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Postiogan tafod_bach » Llun 22 Ion 2007 1:21 pm

es i i fy nosbarth cyntaf ers ooooesoedd nos iau diwetha. dwi di bod yn cerdded fel gari cwper ers hynny, ond o! dwi'n teimlo'n iachus a sanctimonious...
Rhithffurf defnyddiwr
tafod_bach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 936
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 11:49 am

Postiogan SerenSiwenna » Llun 22 Ion 2007 1:35 pm

ha ha, ie, mae'n dda gwybod bo chdi di gwneud rhywbeth iach y diwrnod hwnw ynde - wedyn os ti cael slip up, ddeda battered mars bar, di o ddim cweit mor ddrwg 8)
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Postiogan Manon » Llun 22 Ion 2007 5:22 pm

O'n i'n arfaer mynd i ddosbarth yoga wythnosol. Doedd o ddim rili yn gweithio achos roedd yr holl rechu oedd yn mynd ymlaen yn gwneud i mi chwerthin yn afreolus ac o'n i'n colli'r holl beth calm, zen-like yna 'sgin ti pan ti'n neud yoga :lol:

'Dwi 'di prynu DVD Geri ( :wps: ) ond roedd o'n lawer rhy ara', a doedd 'na ddim chwysu yn digwydd- O'n i 'myn teimlo 'tha bo' fi 'di neud workout ar ol gwneud nhw! Ydi'r power yoga 'ma efo tam' bach o fynd ynddo fo?
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Postiogan SerenSiwenna » Mer 24 Ion 2007 11:23 am

'Dwi 'di prynu DVD Geri ( :wps: )
:lol: :lol: :lol:

ond roedd o'n lawer rhy ara', a doedd 'na ddim chwysu yn digwydd- O'n i 'myn teimlo 'tha bo' fi 'di neud workout ar ol gwneud nhw!

Ahem, deall be ti'n feddwl, wnes i brynnu'r video :wps: :wps:

Ydi'r power yoga 'ma efo tam' bach o fynd ynddo fo?


Ydy tad, mae Rodney yn ardderchog, ti'n gallu teimlo dy galon yn mynd a'r cyhyrau yn crynnu. Mae gen i yr un 'Yoga for abs' (1/2 awr) a'r 'Power yoga' (1 awr), mae nhw'n wych. Fyswn i yn cynnig dechrau hefo'r yoga for abs a gweithio am 2 neu dri wythnos, yna newid i'r power yoga.
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Postiogan tafod_bach » Mer 24 Ion 2007 1:46 pm

dwi am fynd yn ol am ddosbarth arall yfory, er gwaetha'r straen a'r embaras wythnos diwetha. mae'n ymddangos fel eich bod chi'ch dwy'n ei ymarfer i gael gwell siap ar y mysyls a chwysu!- dim ond di dechre'n ol ydw i (disglaimydd) ond o'n i'n cael mwy o hwyl ar wella cydbwysedd a cho-ordinasiwn (be di hynna'n gymraeg?), ac hefyd, trwy weithio ar gydlynnu anadl a symudiad, gwella fy ngallu i ganolbwyntio a myfyrio. innit.

ma copi o 'geribody' yn ty ni (not main) - ma gormod o ofn ei wylio fo arnai!
Rhithffurf defnyddiwr
tafod_bach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 936
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 11:49 am

Postiogan SerenSiwenna » Mer 24 Ion 2007 2:05 pm

Blydi typical de - rhaid bo'r hen Geri 'na di gwneud ffortiwn or video rubish 'na! Wnes i ei brynnu gan bo hi di mynd o fod yn ferch reit bonny gawn ni ddeud i fod yn lithe fel panther mewn chydig iawn o amser...a ges i fyn nhynnu fewn i'r synniad fysa fo yn gweithio fela i mi *gullible*

Ar y llaw arall, doeddwn i ddim yn gwybod lle i gael gwybodaeth am yoga ac, gan nad oes car gen i, roedd e yn anodd feindio dosbarth o fewn cyrraedd ar y pryd.

Dwi'n disciple ymroddgar o Yogi Yee rwan a wnai byth cael fy'n temptio gan 'celeb' dvd eto! Rwyn teimlo'n fwy hyblig yn lot llai nerfws/ stressed ers dechrau Yoga. :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Postiogan Dwlwen » Mer 24 Ion 2007 2:33 pm

tafod_bach a ddywedodd:ma copi o 'geribody' yn ty ni (not main)

:wps: Odd e'n £3 yn woolies, oce?

Ma fidio Geri yn iawn (er bod y fenyw ei hun yn hollol rong...) Dwy heb wylio fe ers achau, ond o beth wy'n cofio, ma'r cyflwyniadau i'r gwahanol 'poses' i gyd yn rhoi syniad gweddol dda i chi beth ddylech chi fod yn 'neud (a nid Geri sy'n 'neud yr egluro, felly ma hynna'n plus...) Ydi, ma fe'n araf - ond gweithio ar gydbwysedd, hyblygrwydd, ac ymestyn y cyhyrau yw nod yoga, nid gwneud i chi chwysu (falle gewch chi fenthyg 'Daniella Westbrook's Better Body Workout' gan tafod_bach :winc: ar gyfer hynny...)

Ashtanga i fi a t_b yn 'neud, gyda llaw - me'n gofyn tipyn o gryfder, ond me'n hynod relaxing hefyd.
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Postiogan Manon » Mer 24 Ion 2007 4:22 pm

Dwlwen a ddywedodd:... gweithio ar gydbwysedd, hyblygrwydd, ac ymestyn y cyhyrau yw nod yoga, nid gwneud i chi chwysu (falle gewch chi fenthyg 'Daniella Westbrook's Better Body Workout' gan tafod_bach :winc: ar gyfer hynny...)



:lol: Ga'i? 'Dwisho cryfhau y bit rhwng fy ffroenau :crechwen:
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Postiogan tafod_bach » Mer 24 Ion 2007 4:27 pm

croeso iti! mae'r loncwisgiau felw^r yn werth eu gweld...
Rhithffurf defnyddiwr
tafod_bach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 936
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 11:49 am

Nesaf

Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 28 gwestai

cron