Tudalen 1 o 1

Cymdeithasegwyr Cymraeg

PostioPostiwyd: Mer 31 Ion 2007 11:53 am
gan SerenSiwenna
Helo cyd-faeswyr,

Yr wyf am dechrau trio hybu'r ddefnydd o'r Gymraeg yn y British Sociological Association. Rwyf wedi neud posting ar web forum y BSA i ofyn os neith nhw creu adran ar ei gyfer o (fel mae gennym ni cell gymysg ddiwylliannol yn fama) ac rwyf am ysgrifennu erthygl amdanno i cylchgrawn y BSA sef 'Network'.

Dwi'n gwybod bod hi'n long-shot ond o ni jest yn meddwl taswn yn gofyn os oes na maeswyr eraill sydd a diddordeb, byswn yn ddiolchgar iawn i chwi os wnewch chi alw heibio'r seiat BSA ac ymuno ar fforwm ac rhoi ateb bach syml yn cefnogi'r syniad. Mae'r neges yn Saesneg gan fod fi ar hyn o bryd yn cynnig y syniad (ac mae angen iddynt allu ei ddallt e) Mae e o dan yr adran cyntaf am syniadau. Fy enw postio i yw Cymdeithasegwr.

Hefyd, os oes na maeswyr eraill yma sy'n astudio gradd mewn un or gwyddorau cymdeithaseg, trwy gyfrwng y gymraeg, hoffwn glywed gynnych :winc: