Tudalen 1 o 4

Cysgod y Cryman

PostioPostiwyd: Iau 01 Chw 2007 11:14 pm
gan Lali-pwpw
phwwaaar! esh i weld o heno a chwara teg odd on dda iawn! wir 'di mwynhau, ar boi stiwart watts na'n superb, (lot o giglo) er bo v rioed d clwad am dana fo o blaen! rwyn yn gwbod pwy dio?

cerwch i weld o'n theatr clwyd! Gwerth ei weld!

PostioPostiwyd: Iau 01 Chw 2007 11:29 pm
gan dawncyfarwydd
Es inna hefyd, ac mi oedd o'n itha byth.

Cynhyrchiad yn sbot-on. Set yn sbondonics, fel arfer.

Yr addasiad? Gwneud yn dda iawn efo job anodd, a'r fformat yn gweithio'n dda - naratif Harri yn effeithiol, heb fod yn ormodol a newid yr holl beth. Ond doedd hi ddim yn ddrama yn ei hanfod ei hun - addasiad oedd o. Mi fasa osgoi hynny wedi bod yn amhosib am wn i.

Ella bod angen i ni rannu mwy o brofiad Harri wrth iddo fo gael ei argyhoeddi? Ches i 'mo fy ysgwyd.

Owen Arwyn yn wych, Dyfan Roberts 'chydig yn rhy werinaidd ond yn champion fel arall, Rala Rwdins yn gwd - pawb yn dda a deud y gwir. Braf gweld Ffion Rownd a Rownd yn ôl, heb ei gweld hi mewn dim byd ers sbel. [Ma'r frawddeg ola 'na'n agred i abiws os buodd 'na un erioed.]

Na, da iawn wir.

PostioPostiwyd: Iau 01 Chw 2007 11:32 pm
gan Lali-pwpw
hmm, cytuno yn llwyr. be odda tn feddwl o gastio'r merched? sw ni d swopio ambell un.

a odd christine pritchard n wych, llais anhygoel does!

PostioPostiwyd: Iau 01 Chw 2007 11:39 pm
gan dawncyfarwydd
Swn i'n deud eu bod nhw'n iawn fel'na yn bersonol. Am hogan Trawscoed oeddat ti'n meddwl? 'Sat ti'n gallu dadla am wn i. Ella bod ffrog cariad Harri yn rhy grand ar y diwedd. Ac ella bod cardigan yn anaddas i hogan y fath fam ag oedd Christine Prtchard. Ond manylion 'di rheina.

PostioPostiwyd: Gwe 02 Chw 2007 10:17 am
gan SerenSiwenna
Wnes i weld rhywbeth am hwn yn Golwg - rhywun yn gwybod pryd mae e'n dangos yn theatre clwyd?

Ai dyma'r tro cyntaf i Cysgod y Cryman cael ei addasu i'r theatre?

PostioPostiwyd: Gwe 02 Chw 2007 10:31 am
gan sian
Dim ond am un noson yn ôl pob golwg:

Theatr Clwyd: 5 Mawrth 0845 330 3565 http://www.clwyd-theatr-cymru.co.uk/

PostioPostiwyd: Gwe 02 Chw 2007 11:22 am
gan canol llonydd distaw
Dyma'r addasiad llwyfan 1af. Mae 'na gyfweliad fan hyn gyda Sion Eirian yn trafod y her o'i haddasu.

PostioPostiwyd: Gwe 02 Chw 2007 12:27 pm
gan Fflamingo gwyrdd
Newydd fwcio tocyn i'w gweld yn Theatr Brycheiniog, gan fy mod yn gorfod gweithio pan mae hi'n lleol yn fan'yn. Bach o niwsans o ran fy nhaflen amser, ond profiad newydd ar y llaw arall! Edrych ymlaen ar ôl darllen yr uchod 8)

PostioPostiwyd: Sul 04 Chw 2007 11:59 pm
gan dawncyfarwydd
O, a pheth arall - maen nhw'n deud 'tair mlynedd'. Ac yn ei ddeud o lot. Ar ôl ei gilydd. Sôn am deimlo fel taflu Mint Imperials!!

PostioPostiwyd: Llun 05 Chw 2007 9:10 am
gan sian
Wnes i ei mwynhau hi'n fawr.

Do'n i ddim yn siwr am gastio Gwylan.
Ac o'n i'n meddwl bod dau gymeriad Christine Pritchard yn rhy debyg i'w gilydd.

Mae busnes yr acen yn codi yma eto (gweler Cowbois + Injans) - mae 'na fwy i acen Powys na thaflu ambell i "ded" neu "bech" i mewn. Roedd Dyfan Roberts yn eitha argyhoeddiadol ond wnaeth neb arall lot o ymdrech - sy'n well na gwneud ymdrech a methu, am wn i.
Dw i'n cofio pan oedd y gyfres ar y teledu - Lleifior ? - wnaeth Elliw Haf ymdrech go iawn i feistroli'r acen - a llwyddo.

Ond, ar y cyfan, da iawn.