Tudalen 2 o 4

PostioPostiwyd: Llun 05 Chw 2007 10:14 am
gan Reufeistr
Oedd y ferch sy'n actio Gwylan yn dêm? Gynai wastad ddelwedd ohoni fel rhyw lesbian mewn cargos a t-shirt Che Guevara, ond un eitha secsi.

PostioPostiwyd: Llun 05 Chw 2007 10:46 am
gan Gowpi
Ffaelu cael tocyn i Gaerfyrddin - gwerthu mas...

PostioPostiwyd: Llun 05 Chw 2007 10:57 am
gan sian
Gowpi a ddywedodd:Ffaelu cael tocyn i Gaerfyrddin - gwerthu mas...

Alli di fynd i Abertawe neu Aberteifi? - mae'n werth ei gweld

PostioPostiwyd: Llun 05 Chw 2007 12:37 pm
gan Gowpi
Ddim ar gael am y dyddiadau hynny yn anffodus... neu ffodus? Newydd wrando ar Gwilym Owen ac adolygiad Paul Griffiths o'r ddrama - slatad llwyr, bai ar y set, actorion ifanc (cyn actorion Glan Aethwy), acenion ayb
http://www.bbc.co.uk/cymru/adloniant/th ... paul.shtml
O diar...

PostioPostiwyd: Llun 05 Chw 2007 1:01 pm
gan løvgreen
Dwi fel arfer yn hoffi Paul Griffiths yn adolygu, ond wir o'n i'n meddwl bod hwn yn dda iawn. Oedd yr acenion ddim yn chwithig o gwbl - dim fel y rhai chwerthinllyd ar yr addasiad teledu (JO Roberts yn arbennig).
Dwi ddim yn siwr sut fasa fo'n gweithio fel drama i rywun oedd heb ddarllen y stori erioed - ond gan fod na neb o gwbl yng Nghymru sydd heb ddarllen CyC dydi hynny'n ddim problem!
Actio da, cyfarwyddo da, set da a stori dda. Be fwy dech chi isio?

PostioPostiwyd: Llun 05 Chw 2007 2:40 pm
gan sian
Swn i ddim yn peidio â mynd i'w gweld hi ar ôl gwrando ar adolygiad Paul Griffiths.
Ro'n i'n cytuno â rhai pethe e.e. roedd y swper yn y Trawsgoed yn cael ei wthio i gongol y llwyfan gan y set.
Ond o'n i'n meddwl bod ei feirniadaeth am ddylanwad Glanaethwy yn annheg - roedd y rhai o'n i'n gwbod eu bod nhw wedi dod trwy Glanaethwy'n dda iawn.

PostioPostiwyd: Llun 05 Chw 2007 3:00 pm
gan khmer hun
Ond be' 'y fi ddim yn'i ddeall yw pam ei fod e'n dewis un bach arall o Lanaethwy bob tro - pam ddim defnyddio'r dwsin o actorion a ymlafniodd drwy broses rhestr fer yr actorion craidd ar y dechrau, ond na chafodd eu dewis ymhlith y pedwar llwyddiannus e.e. fel Gruff Ifan, Lleuwen Steffan ac eraill? (Y 4 actor craidd yw Owen Arwyn, Rhian Blythe, Carys Eleri Evans a Dave Taylor, sy'n cymryd rhan yn y rhan fwya' o ddramâu.)

PostioPostiwyd: Llun 05 Chw 2007 5:08 pm
gan Twyllwr Rhinweddol
(Roedd Lleuwen Steffan hefyd yn Lanaethwyan o'r radd flaena! (O'n inna yn aelod hefyd... ond o'r radd isa!)).

Heb weld y ddrama eto, ond roedd fy mam wedi ei mwynhau yn arw yn Theatr Gwynedd y penwythnos hwn. Byddaf yn mynd i'w gweld hi pan ddaw hi i Lundain ym mis Ebrill, a rhaid deud mod i'n edrych mlaen!

Mi sylwais wrth siarad efo fy mam fy mod i wedi anghofio isblotiau ac isgymeriadau y nofel yn y 10 mlynedd sydd ers i mi ei darllen a'i hastudio. Ydych chi'n meddwl y byddai o werth i unrhyw un sy'n bwriadu mynd i weld y ddrama ddarllen neu ailddarllen y nofel o flaen llaw, neu ydi'r cynhyrchiad yn sefyll ar ei draed ei hun?

PostioPostiwyd: Llun 05 Chw 2007 5:09 pm
gan Fflamingo gwyrdd
Glywish inna adolygiad Paul Griffiths hefyd :( a finna wedi edrych ymlaen cymaint...
Mi ddarllenish i'r llyfr flynyddoedd yn ôl (a'i weld ar y teledu), ond dwi ddim yn meddwl i'r Dyn 'neud y naill na'r llall. Ydi'r rhai ohonoch chi sydd wedi gweld y ddrama lwyfan yn argymell y dylai o ei darllen gyntaf, neu ydi o ddim yn gwneud gwahaniaeth?
Thenciw 'nde.

PostioPostiwyd: Llun 05 Chw 2007 6:28 pm
gan sian
Twyllwr Rhinweddol a ddywedodd:Ydych chi'n meddwl y byddai o werth i unrhyw un sy'n bwriadu mynd i weld y ddrama ddarllen neu ailddarllen y nofel o flaen llaw, neu ydi'r cynhyrchiad yn sefyll ar ei draed ei hun?


Do'n i ddim wedi'i darllen hi ers blynyddoedd - dyddiau ysgol o bosib - ond wnaeth hynny ddim amharu ar fy mwynhad. Roedd rhyw bobl yn eistedd y tu ôl i ni'n doethinebu am "gynfas eang" ac "is-themâu" ac "is-is-themâu" aballu ac yn meddwl y byddai'n anodd i rywun nad oedd wedi darllen y nofel ddilyn y stori ond dw i ddim yn meddwl hynny rywsut.

Efallai y byddai'n well peidio ag ailddarllen - fyddi di'n gweld y ddrama fel drama wedyn.