Tudalen 3 o 4

PostioPostiwyd: Llun 05 Chw 2007 6:33 pm
gan Fflamingo gwyrdd
(doedd neges y Twyllwr ddim ar fy sgrin i pan ddechreush i ofyn yr un cwestiwn!)
Beth am rhywun sydd heb ei darllen o gwbl, Sian?

PostioPostiwyd: Llun 05 Chw 2007 7:51 pm
gan sian
Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:Beth am rhywun sydd heb ei darllen o gwbl, Sian?


Dw i ddim yn gwbod. Mae'n siwr y byse rhyw syniad o'r cefndir - pwysigrwydd dilyniant a thraddodiad yng nghefn gwlad Powys a thwf sosialaeth ac ymddangosiad 'dylanwadau estron' ar ôl y Rhyfel - yn help. Ond fel drama, swn i'n meddwl ei bod hi'n sefyll ar ei thraed ei hunan.

PostioPostiwyd: Maw 06 Chw 2007 2:51 pm
gan sian
Eifion Lloyd Jones heb ei blesio'n fawr chwaith.

Os clywa i rywun arall yn sôn am "gynfas eang" Cysgod y Cryman, mi sgrechia'i. Fe yw o leia'r pumed i mi ei glywed yn dweud hynny - beth sy wedi digwydd? - ai un person sydd wedi defnyddio'r ymadrodd a phawb arall wedi'i licio a meddwl ei fod yn swnio'n effeithiol ac yn bwysig?
Am beth yn union mae'n sôn? Alla i feddwl am lot o nofelau/dramau sydd â "chynfas ehangach"

PostioPostiwyd: Maw 06 Chw 2007 8:17 pm
gan Manon
sian a ddywedodd:Eifion Lloyd Jones heb ei blesio'n fawr chwaith.



Sori 'de ond mae'r adolygiad yma'n wael. 'Dwi heb weld y cynhyrchiad ac efallai bod ei safbwynt o o ran hynny'n iawn, ond mae o wedi ei 'sgwennu mor glogyrnaidd (os 'da chi'n dallt be' sgin i.)

Wedi clywed pethau gwych am CyC, ond 'dwi ddim yn mwynhau ffilmiau/rhaglenni/dramau sy'n addasiadau o nofelau. 'Dwi'n licio cadw'r delwedd oedd yn fy nychymyg i fel oedd o pan ddarllenish i o gynta'. Dim bod o'n peth rong i neud, jysd 'dwi ddim yn keen.

PostioPostiwyd: Iau 08 Chw 2007 11:54 am
gan SerenSiwenna
Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:(doedd neges y Twyllwr ddim ar fy sgrin i pan ddechreush i ofyn yr un cwestiwn!)
Beth am rhywun sydd heb ei darllen o gwbl, Sian?


Wnes i ddim cael y cyfle iw ddarllen e yn yr ysgol gan bo fi yn y trydydd "set" on wnes i brynnu copi ail law chydig ynol a dwi'n ei ddarllen e rwan. Alla i ddeud ei fod en hynnod o nofel da hyd yn hyn ac rwyn ei fwynhau yn arw. Os elli di cael dy ddwylo ar copi fyswn i'n cynnig bo ti'n gwneud.

Dwi rili eisiau mynd iw weld e....ond does gen i neb i fynd hefo :crio: neshi drio cael dad i fynd a fi ond doedd o ddim yn rhy hoff o'r syniad. Tydi fy nghariad na fy ffrindiau yma yn Lerpwl ddim yn siarad cymraeg felly fydd raid i mi contention hun i ddarllen y refiws yn fan hyn :P

Dwi'n synnu, gyda llaw, bo dyma'r tro cyntaf i nhw creu addasiad llwyfan o cysgod y cryman :ofn:

PostioPostiwyd: Iau 08 Chw 2007 1:11 pm
gan Fflamingo gwyrdd
SerenSiwenna a ddywedodd:
Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:(doedd neges y Twyllwr ddim ar fy sgrin i pan ddechreush i ofyn yr un cwestiwn!)
Beth am rhywun sydd heb ei darllen o gwbl, Sian?


Wnes i ddim cael y cyfle iw ddarllen e yn yr ysgol gan bo fi yn y trydydd "set" on wnes i brynnu copi ail law chydig ynol a dwi'n ei ddarllen e rwan. Alla i ddeud ei fod en hynnod o nofel da hyd yn hyn ac rwyn ei fwynhau yn arw. Os elli di cael dy ddwylo ar copi fyswn i'n cynnig bo ti'n gwneud.


Dwi'n cofio'i ddarllen o pan o'n i yn yr ysgol (o'm pen a'm pastwn fy hun). Y Dyn sydd heb 'neud. Ond erbyn hyn, dwi'n meddwl fod ganddo fo ddigon ar ei blat rhwng rwan a phryd byddwn ni'n mynd i'r Bannau i'w weld o! Ella 'rysbrydolith y ddrama fo i'w darllen hi wedyn.

PostioPostiwyd: Gwe 09 Chw 2007 10:44 am
gan SerenSiwenna
Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:
SerenSiwenna a ddywedodd:
Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:(doedd neges y Twyllwr ddim ar fy sgrin i pan ddechreush i ofyn yr un cwestiwn!)
Beth am rhywun sydd heb ei darllen o gwbl, Sian?


Wnes i ddim cael y cyfle iw ddarllen e yn yr ysgol gan bo fi yn y trydydd "set" on wnes i brynnu copi ail law chydig ynol a dwi'n ei ddarllen e rwan. Alla i ddeud ei fod en hynnod o nofel da hyd yn hyn ac rwyn ei fwynhau yn arw. Os elli di cael dy ddwylo ar copi fyswn i'n cynnig bo ti'n gwneud.


Dwi'n cofio'i ddarllen o pan o'n i yn yr ysgol (o'm pen a'm pastwn fy hun). Y Dyn sydd heb 'neud. Ond erbyn hyn, dwi'n meddwl fod ganddo fo ddigon ar ei blat rhwng rwan a phryd byddwn ni'n mynd i'r Bannau i'w weld o! Ella 'rysbrydolith y ddrama fo i'w darllen hi wedyn.


Sori, wedi cam ddeall. Dim ond trio helpu o ni cofia - jest rhannu'r ffaith bo fi'n mwynhau'r nofel a cynnig i eraill ella bysent yn ei fwynhau. Rwyf ynawr yn ei ddarllen o'm pen a'm pastwn fy hun fy hun.....doeddwn i ddim rili mewn sefyllfa i wneud hynny yn yr ysgol.

PostioPostiwyd: Maw 13 Chw 2007 11:57 am
gan Fflamingo gwyrdd
SerenSiwenna a ddywedodd:Sori, wedi cam ddeall. Dim ond trio helpu o ni cofia - jest rhannu'r ffaith bo fi'n mwynhau'r nofel a cynnig i eraill ella bysent yn ei fwynhau.


Sori Seren, dwi'n amau i ti fy nal (ddwywaith!) mewn tymer ddrwg y diwrnod yna (dim dy fai di!) :wps:

PostioPostiwyd: Maw 13 Chw 2007 1:43 pm
gan Madrwyddygryf
Os na docynnau dal ar gael ar gyfer Sherman yng Nghaerdydd?

PostioPostiwyd: Maw 13 Chw 2007 2:27 pm
gan Fflamingo gwyrdd
Prin yn ôl gwefan y cwmni (prin yng Nghaerdydd ac Abertawe) - well i ti ffonio'r theatr ei hun, debyg. Byddwn ni'n mynd i'r perfformiad yn Aberhonddu - llai nag awr yn y car 'twel.