Tudalen 4 o 4

PostioPostiwyd: Mer 14 Chw 2007 11:31 am
gan SerenSiwenna
Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:
SerenSiwenna a ddywedodd:Sori, wedi cam ddeall. Dim ond trio helpu o ni cofia - jest rhannu'r ffaith bo fi'n mwynhau'r nofel a cynnig i eraill ella bysent yn ei fwynhau.


Sori Seren, dwi'n amau i ti fy nal (ddwywaith!) mewn tymer ddrwg y diwrnod yna (dim dy fai di!) :wps:


Ahh, diolch i ti am postio hyn. O ni reit ddigalon pan welish i bo fi di achosi stwr ar y maes....wedi dechrau meddwl fysa well i mi fynd i fyw mewn ty pren fel John Jones (gwyn ei byd?) gan nad o ni'm yn dda iawn yn gymysgu ag eraill....hyd ynoed yn cyberspace :wps: Dylwn i wedi darllen y negesau i gyd yn trwyadl cyn postio eniwe. Gobeithio fod pethe yn well hefo ti erbyn hyn :winc:

PostioPostiwyd: Mer 14 Chw 2007 11:34 am
gan SerenSiwenna
Tocynnau i gyd di mynd i theatr clwyd damnia! :? Roedd mam a dad wedi penderfynnu bod nhw eisiau mynd wedi'r cwbwl. Chi'n meddwl eith nhw ar tour arall os ma nhw'n gweld pa mor poblogaidd yw e?

PostioPostiwyd: Mer 14 Chw 2007 11:47 am
gan Twpsan
ma na rei ar ol yng nghaerdydd - newydd archebu rhai ddoe

PostioPostiwyd: Mer 14 Chw 2007 1:45 pm
gan Madrwyddygryf
Newydd siarad gyda Theatr Sherman nawr. Mae na docynnau ar gael ar gyfer sioe nos sadwrn yng Nghaerdydd.

PostioPostiwyd: Iau 22 Chw 2007 3:17 pm
gan Fflamingo gwyrdd
Pryna un Madrwydd - mae hi'n werth ei gweld.
Dwi'n cytuno (i raddau) efo rhai elfennau o'r beirniadu sydd wedi cael ei wneud, ond ar y cyfan, mi fwynheish i'n fawr (er mod i'n cytuno efo elfennau o'r beirniadaethau sydd wedi'i gwneud, dwi ddim yn meddwl ei bod hi'n haeddu hanner slĂȘting mae hi wedi ei chael!)

Gyda llaw, oes rhywun yn gwybod os oes modd cael copi o'r cyfresi teledu Lleifior 1&2?


(Gyda llaw Siwenna, ges ti dy NB? :winc: )

PostioPostiwyd: Llun 26 Chw 2007 12:04 pm
gan Madrwyddygryf
Er dwi'n cytuno gyda adolygiad y BBC, yn arbennig gyda'r set. (er roedd y wejan yn meddwl bod y set yn wych), ces i mhlesio'n gan y ddrama.Fe gadwodd yn reit ffyddiog i'r stori.Mae na lot o gyflinell yn y fffurf o'r epig teuluol rhwng pethau fel Cysgod y Cryman ac 'Heimat', gyfres teledu Almaeneg.

Os ydych yn mwynhau am straeon y Lleifior, mae'n siwr fe newch fwynhau y gyfres wych yma.

PostioPostiwyd: Llun 26 Chw 2007 3:39 pm
gan Fflamingo gwyrdd
Madrwyddygryf a ddywedodd:Fe gadwodd yn reit ffyddiog i'r stori.


Ffyddlon? :lol: :winc:

PostioPostiwyd: Mer 28 Chw 2007 4:26 pm
gan Rhys Llwyd
Fe fwynhaesi hi'n fawr iawn. Ond tydwi fawr o expert ar ddramau a cymysg oedd barn fy nghyfeillion syn gwbod mwy am theatr na fi.

PostioPostiwyd: Mer 28 Chw 2007 6:02 pm
gan Chwadan
Wedi gweld addasiad gwych o Grapes of Wrath llynedd, dwi'm yn meddwl gallswn i fod wedi peidio cael fy siomi braidd efo CyC. Dwi'n cytuno efo'r rhan fwyaf o be mae'r adolygwyr yn ei ddweud. Ond mi oedd Dyfan Roberts yn werth ei weld.