Tywysog Cymru

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Postiogan sian » Gwe 16 Chw 2007 11:59 am

Cardi Bach a ddywedodd:Dad :P


Dewis da! A dw i'n cymryd y byddai hi'n swydd etifeddol. :lol:

Ond os na fyddai'r tywysog yn cael gwario arian na gwneud "pethau brenhinol", beth yn union fyddai e'n neud trwy'r dydd?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Tywysog Cymru

Postiogan SbecsPeledrX » Gwe 16 Chw 2007 12:02 pm

Macsen a ddywedodd:Hyd yn oed petai Cymru yn weriniaeth annibynol ti'n gwybod y byddai teulu brenhinol Lloegr dal yn galw eu hunain yn dywysogion ar Gymru, am ei fod o'n 'draddodiadol'. Fyddai ddim rhaid i dywysog Cymru fod yn 'head of state' - dyw brenin y maori ddim, yn Seland Newydd - na gwneud dim o'r pethau brenhinol sy'n mynd ar limpyn gweriniaethwyr. Mi fyddai cael tywysog hefyd yn amlygu hanes Cymru fel gwlad annibynol cyn y cyfeddiant, ac yn denu twristiaid 'fyd. ;)


Sa Amanda Protheroe Thomas a Heledd Cynwal yn gneud live lesbian sex shows yn denu twristiaid hefyd - ond den ni ddim yn debygol o cael hynna nachdan. Petai Cymru yn weriniaeth annibynnol bysa teulu brenhinol Lloegr ddim yn galw eu hunain yn dywysogion arni. ydyn nhw'n galw eu hunain yn brenhinoedd ar 26 sir "gweriniaeth" iwerddon?

Hefyd - gobeithio bydd Lloegr yn weriniaeth rhydd hefyd - wedyn fyddai'r basdads breintiedig wedi bod dan guillotine beth bynnag.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan Macsen » Gwe 16 Chw 2007 12:12 pm

sian a ddywedodd:Ond os na fyddai'r tywysog yn cael gwario arian na gwneud "pethau brenhinol", beth yn union fyddai e'n neud trwy'r dydd?

Ei swyddogaeth pennaf fyddai peidio bod yn Charles Philip Arthur George Mountbatten-Windsor, a os ydi o'n lwyddiant yn hynny o beth efallai y galle ni ddarganfod cyfrifoldebau amgen ar ei gyfer, fel chwarae ryw ran mewn Eisteddfodau.

Dwi'n enwebu Cardi Bach, gan fod y teulu yn ryw fath o deulu brenhinol yng Nghymru yn barod. ;)
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Cardi Bach » Gwe 16 Chw 2007 12:29 pm

Macsen a ddywedodd:
sian a ddywedodd:Ond os na fyddai'r tywysog yn cael gwario arian na gwneud "pethau brenhinol", beth yn union fyddai e'n neud trwy'r dydd?

Ei swyddogaeth pennaf fyddai peidio bod yn Charles Philip Arthur George Mountbatten-Windsor, a os ydi o'n lwyddiant yn hynny o beth efallai y galle ni ddarganfod cyfrifoldebau amgen ar ei gyfer, fel chwarae ryw ran mewn Eisteddfodau.

Dwi'n enwebu Cardi Bach, gan fod y teulu yn ryw fath o deulu brenhinol yng Nghymru yn barod. ;)


wel bydden i'n gorfod cal ffeit go heger gyda'n ewythrod, nhad, a nghendryd gynta (falle allen i sbaddu rhai ohonyn nhw nawr cyn bod unrhyw fygythiad arall i'r orsedd), ond wy'n lico nhw ormod i neud hynny.

heeeefyd, wy'n weriniaethwr, ac yn erbyn unrhyw fath o frenhiniaeth, hyd yn oed os mai un 'democrataidd' yw e sydd yno i ddenu twristiaid. Ma pawb yn gydradd a dyle neb cael eu trin yn fwy arbennig na unrhyw un arall.

(ond diolch am dy bleidlais o hyder, Macsen :winc: )
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Iesu Nicky Grist » Gwe 16 Chw 2007 12:36 pm

SbecsPeledrX a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:O be wela i, un ymgeisydd go iawn sydd a Ray Gravell ydi hwnnw.


Union y fath o beth sy'n profi mor hurt yw'r syniad.
:lol:
Macsen a ddywedodd:Mae o'n ticio bob bocs: Cymro Cymraeg, barf, arwr cenedlaethol, siriol...

...MANIC :ofn:


Nac odd Cayo'n credu mewn (ail sefydlu) brenhiniaeth Gymreig?
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

Postiogan sian » Gwe 16 Chw 2007 12:37 pm

Macsen a ddywedodd:Dwi'n enwebu Cardi Bach, gan fod y teulu yn ryw fath o deulu brenhinol yng Nghymru yn barod. ;)


Ond ma 'dag e earring.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Iesu Nicky Grist » Gwe 16 Chw 2007 12:38 pm

sian a ddywedodd:
Macsen a ddywedodd:Dwi'n enwebu Cardi Bach, gan fod y teulu yn ryw fath o deulu brenhinol yng Nghymru yn barod. ;)


Ond ma 'dag e earring.


Pwynt gwych!
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

Postiogan SbecsPeledrX » Gwe 16 Chw 2007 1:42 pm

Iesu Nicky Grist a ddywedodd:Nac odd Cayo'n credu mewn (ail sefydlu) brenhiniaeth Gymreig?


Odd Cayo'n deud bo Flying Columns Cymreig yn barod i herio'r wladwriaeth brydeinig, yn casau comiwnyddion gymaint nad oedd am gael arfau o Dwyrain yr Almaen, ac yn dirfeiddianwr o be dwi'n dallt. Top marks am fod yn wrth imperialydd, ac yn arwr i lawer ohonom. Ond byddwn i ddim yn rhoi llawer o ffydd yn ei allu i adeiladu'r Cymru annibynnol.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Nôl

Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron