Tudalen 1 o 3

Tywysog Cymru

PostioPostiwyd: Iau 15 Chw 2007 2:12 pm
gan Macsen
Mae gwylio cyfres S4C, 'Tywysogion', wedi codi cwestiwn yn fy meddwl i. Mae'n debyg bod nifer o'r tywysogion yn y gyfres heb gael eu ddyrchafu i'w lleoliad gan eraill ond yn hytrach wedi penderfynu mai nhw oedd Tywysog Cymru, a gwae unrhywun fyddai'n anghytuno gyda nhw.

Felly, pam nad yw'r Cymru jesd yn dewis eu tywysog eu hunain? Mae nifer yn cwyno nad yw'r Tywysog Charles yn cynrychioli Cymru, felly pam ddim dewis rywun sydd yn? Hyd y gwela'i does dim all deulu brenhinol Lloegr wneud am y peth - fyddai crogi ymhonwr ddim yn y PR move gora'.

Yr unig beth sy'n gwneud rywun yn dywysog ydi'r ffaith bod pobol yn meddwl ei fod o'n dywysog. Mae'r syniad mai Duw sy'n gwneud y dewis allan o ffasiwn braidd. Felly pe bai'r Cymru Cymraeg yn penodi eu tywysog eu hunain Tywysog fyddai fo.

Falle bod hyn yn swnio'n syniad anhygoel o hurt - ond mae o eisoes wedi digwydd, yn Seland Newydd. Doedd y Maori ddim yn hoffi teulu brenhinol Lloegr fely dyma nhw'n penderfynu creu un eu hunain. A mae o yn dal i barhau heddiw. Hyd y gwela'i does dim yn rhwystro'r Cymru sy'n cwyno ei fod o'n gywilydd bod ein tywysog ni ddim yn Gymro rhag gwneud yr un fath?

PostioPostiwyd: Iau 15 Chw 2007 2:23 pm
gan CORRACH
Syniad diddorol, ond mae'n beryg petai'r penodiad yn ddemocrataidd, bydda ni i gyd yn cael ein gwobrwyo efo Tom Jones/Max Boyce fel ein Tywysog nesa, a bydda'i arfbais yn cynnwys cennin Pedr, pel rygbi, lwmp o lo a chor meibion.
O leia roedd y tywysogion yn frenhinol yn eu llinach eu hunain yn barod. Dwi'n meddwl y dylid gwario biliynau o bunnoedd cyhoeddus ar ymchwilio ach pob Cymro a dechrau eto a theilyngu'r un teilwng o fod yn Dywysog Cymru!
:D

PostioPostiwyd: Iau 15 Chw 2007 2:24 pm
gan sian
Dw i'n meddwl ei fod e'n syniad reit afiach, yn bersonol.
(Falle swn i'n meddwl yn wahanol tase gen i siawns o gael fy newis yn Dywysog)

PostioPostiwyd: Iau 15 Chw 2007 2:28 pm
gan Manon
Syniad diddorol- Ond mi fyswn i'n dychmygu bod y mwyafrif ohonan ni faeswyr ddim yn coelio mewn brenhiniaeth eniwe. 'Sa'n ace ca'l gwarad ar Charles heb deimlo'r angan ca'l neb yn ei le fo.

O ran diddordeb, pwy 'da chi'n meddwl fysa'n gneud tywysog da ar Gymru?

PostioPostiwyd: Iau 15 Chw 2007 2:36 pm
gan Macsen
Manon a ddywedodd:Syniad diddorol- Ond mi fyswn i'n dychmygu bod y mwyafrif ohonan ni faeswyr ddim yn coelio mewn brenhiniaeth eniwe. 'Sa'n ace ca'l gwarad ar Charles heb deimlo'r angan ca'l neb yn ei le fo.

Dwi'n meddwl bod y mwyafrif o bobol sy'n erbyn teulu brenhinol yn teimlo felly oherwydd a) dyw e ddim yn ddemocrataidd, b) mae'n gwastraffu arian. Petai Tywosg Cymru yn dilyn model Seland Newydd mi fyddai fo'n ddemocrataidd, ac fyddai ddim rhaid i'r tywysog wario unrhyw arian. Arweinydd symbolaidd fydda fe/hi.

Does dim gobaith cael gwared o deitl Tywysog Cymru o deulu brenhinol Lloegr - hydynoed petai Cymru yn enill annibyniaeth fyddai dim yn eu rhwystro nhw rhag barhau ei ddefnyddio fe. Yr unig opsiwn fyddai cael ein Tywysog ein hunain fyddai'n default Tywysog Cymru am ei fod o/hi yn Gymro/aes a ddim yn Almaenwr.

PostioPostiwyd: Iau 15 Chw 2007 2:39 pm
gan Mr Gasyth
Manon a ddywedodd:O ran diddordeb, pwy 'da chi'n meddwl fysa'n gneud tywysog da ar Gymru?


O be wela i, un ymgeisydd go iawn sydd a Ray Gravell ydi hwnnw.

Re: Tywysog Cymru

PostioPostiwyd: Iau 15 Chw 2007 2:41 pm
gan Dafydd Iwanynyglaw
Macsen a ddywedodd:Yr unig beth sy'n gwneud rywun yn dywysog ydi'r ffaith bod pobol yn meddwl ei fod o'n dywysog.


Tywysog ydi rhywun sydd wedi peswadio pobol eraill ei fod o'n dywysog ac hefyd a'r gallu milwrol, cyfreithiol a chymdeithasol i wneud y peth yn realiti.

E.e. mi oedd na foi - mab i fab Bonnie Prince Charlie - yn crwydro o gwmpas Ewrop tan ei farwolaeth 1819, yn chwil gaib gachu, yn deud "I'm James IX of Scotland, pal", a dichon fod rhai (dim llawer, ond rhai) yn ei gefnogi yn y peth.

Beth am Hywel Gwynfryn?

PostioPostiwyd: Iau 15 Chw 2007 2:47 pm
gan Macsen
Mr Gasyth a ddywedodd:O be wela i, un ymgeisydd go iawn sydd a Ray Gravell ydi hwnnw.

Mae o'n ticio bob bocs: Cymro Cymraeg, barf, arwr cenedlaethol, siriol, wedi trechu'r gelyn ar faes y frwydyr (wel y maes rygbi). Yr unig broblem yw ei fod o'n 56 oed - fyddai'n well cael tywysog ifancach i ddechrau?

PostioPostiwyd: Iau 15 Chw 2007 2:52 pm
gan Mr Gasyth
Macsen a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:O be wela i, un ymgeisydd go iawn sydd a Ray Gravell ydi hwnnw.

Mae o'n ticio bob bocs: Cymro Cymraeg, barf, arwr cenedlaethol, siriol, wedi trechu'r gelyn ar faes y frwydyr (wel y maes rygbi). Yr unig broblem yw ei fod o'n 56 oed - fyddai'n well cael tywysog ifancach i ddechrau?


A mae ganddo fo gleddyf anferth. Angen rywyn efo'r gravitas ac awdurdod sy'n dod efo oedran dwi'n teimlo. Ac eniwe, young cardinals vote for old popes de :winc:

PostioPostiwyd: Iau 15 Chw 2007 3:22 pm
gan khmer hun
Yn anffod, bydd ryw chwinc yn bownd o fod yn unrhyw un sy'n credu'n ei hun gymaint a bod yn fodlon cymyd y job.

Ond mae yna eithriad... Meredydd Evans i fi, plis.