Macsen a ddywedodd:sian a ddywedodd:Ond os na fyddai'r tywysog yn cael gwario arian na gwneud "pethau brenhinol", beth yn union fyddai e'n neud trwy'r dydd?
Ei swyddogaeth pennaf fyddai peidio bod yn Charles Philip Arthur George Mountbatten-Windsor, a os ydi o'n lwyddiant yn hynny o beth efallai y galle ni ddarganfod cyfrifoldebau amgen ar ei gyfer, fel chwarae ryw ran mewn Eisteddfodau.
Dwi'n enwebu Cardi Bach, gan fod y teulu yn ryw fath o deulu brenhinol yng Nghymru yn barod.
wel bydden i'n gorfod cal ffeit go heger gyda'n ewythrod, nhad, a nghendryd gynta (falle allen i sbaddu rhai ohonyn nhw nawr cyn bod unrhyw fygythiad arall i'r orsedd), ond wy'n lico nhw ormod i neud hynny.
heeeefyd, wy'n weriniaethwr, ac yn erbyn unrhyw fath o frenhiniaeth, hyd yn oed os mai un 'democrataidd' yw e sydd yno i ddenu twristiaid. Ma pawb yn gydradd a dyle neb cael eu trin yn fwy arbennig na unrhyw un arall.
(ond diolch am dy bleidlais o hyder, Macsen
)