Oes rhaid hawl cynllunio i osod polyn fflag?

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Oes rhaid hawl cynllunio i osod polyn fflag?

Postiogan serentywi » Gwe 16 Chw 2007 7:12 pm

Oes rhaid hawl cynllunio i osod polyn fflag ar dir o'ch eiddo. Mae rhai ohonom wedi bod yn meddwl am hyn ers beth amser gan fod Eisteddfod yr Urdd yn dod i Sir Gâr.

Pan dwi'n teithio i ardal ddieithr adeg steddfodau, mae'n braf gweld fflagiau a bunting croeshawgar. Dwi'n siwr fydd pobol Sir Gâr yn gwneud ymdrech.

:)
serentywi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 13
Ymunwyd: Gwe 16 Chw 2007 10:03 am
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Gwe 16 Chw 2007 7:26 pm

Newydd dreulio'r deg munud diwethaf yn chwilio am edefyn arbennig, cyn dod ar draws un arall yn egluro ei fod wedi mynd i'r "fynwent"...
Edefyn baner Jac yr Undeb ar dir gwesty ar lan y Fenai oedd o - a dwi'n siwr i rhywun grybwyll rhywbeth am ganiatad cynllunio, ond dwi ddim yn cofio unrhyw fanylion.
Siwr gen i byddai pethau'n dibynnu ar leoliad a maint y polyn? Ond s'gen i ddim profiad o gwbwl.
Ella fod rhywun arall yn cofio'r edefyn trist hwnnw? :?
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan serentywi » Gwe 16 Chw 2007 7:46 pm

Diolch am gael pip am yr edefyn. Falle fydd rhywun arall yn gwybod.
:D
serentywi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 13
Ymunwyd: Gwe 16 Chw 2007 10:03 am
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan huwwaters » Gwe 16 Chw 2007 8:54 pm

Dwi'n meddwl y bydd angen. Ma pob adeilad efo permitted development - gallu rhoi estyniad bach iawn i adeilad, neu adeiladu wal dim mwy na 2m mewn uchder. Fel arall, dwi'n meddwl bod angen caniatad cynllunio.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan sian » Gwe 16 Chw 2007 9:41 pm

Dyma eitem ddifyr.

Wyddwn i ddim bod yna gymaint o reolau.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Geraint Edwards » Gwe 16 Chw 2007 10:05 pm

Os oes gen ti gwestiwn am gyfraith cynllunio, cer at gyfreithiwr cymhwysedig. Dyna be maen nhw'n da at, wedi'r cwbl! :)

Mae dod i leygwyr Maes E am gyngor am y gyfraith fel gofyn i ddyn sbwriel roi cyngor ar sut i roi triniaeth ar y galon.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint Edwards
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 660
Ymunwyd: Sul 19 Ion 2003 10:39 pm
Lleoliad: Llanddeiniolen / Caerdydd

Postiogan sian » Gwe 16 Chw 2007 10:12 pm

Geraint Edwards a ddywedodd:Mae dod i leygwyr Maes E am gyngor am y gyfraith fel gofyn i ddyn sbwriel roi cyngor ar sut i roi triniaeth ar y galon.


Dallt yn iawn :D

Neu gallet ti ffonio adran gynllunio'r Cyngor Sir.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan 7ennyn » Gwe 16 Chw 2007 10:31 pm

Geraint Edwards a ddywedodd:Os oes gen ti gwestiwn am gyfraith cynllunio, cer at gyfreithiwr cymhwysedig. Dyna be maen nhw'n da at, wedi'r cwbl! :)

Na, paid! - Onibai dy fod am adeiladu rhywbeth sylweddol neu bod gen ti fwy o bres nag o sens.

Mae rheolau cynllunio yn amrywio o ardal i ardal. Cysyllta ag adran gynllunio dy gyngor lleol. Fel arfer mi wnan nhw dy gynghori os wyt ti angen gwneud cais cynllunio neu beidio yn rhad ac am ddim. Mae yma ddolen at y ffurflen berthnasol i ti ar waelod y dudalen yma.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Postiogan serentywi » Llun 21 Mai 2007 8:51 pm

Mae'r Steddfod bron 'ma...a mae'r faner lan!

O'r hyn dwi'n ei ddeall o ddarllen y 'Town and County Planning Act 1990' - gall unrhywun ddangos ei fflag genedlaethol...heb ganiatad cynllunio dim ond i chi gadw at y rheolau isod:

National flags are exempt from control under the regulations provided each flag is flown from a single vertical flagstaff and it does not have anything else added to the design of the flag or any advertising material added to the flagstaff. We shall be amending the Regulations to exempt from control national flags however they are flown from a flagstaff.

:lol:
serentywi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 13
Ymunwyd: Gwe 16 Chw 2007 10:03 am
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan dawncyfarwydd » Llun 21 Mai 2007 9:14 pm

Ti ddim angen caniatad cynllunio oherwydd fysa'r Cyngor ddim yn meiddio cael eu gweld fel pobol ddrwg yn gwrthwynebu i chdi gefnogi'r Steddfod. Unrhyw helynt a ti'n ca'l Golwg i dynnu dy lun di'n edrach yn drist efo dy fflag.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...


Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron