Chip a ddywedodd: yn y diwedd ma'r sin saesneg yn well achos ma'r bandie yn ymladd ei ffordd i'r top gyda caneuon da, tra bod lot o bandie cymrag yn just crwydro na, .
anghytuno. ma' Sibrydion, Y Rei a Plant Duw yn cachu am ben Keane, Coldplay, Embrace . mae bandiau Cymraeg yn fwy na dal eu tir. gin ti fandia Cymraeg cachu oes, jesd fel yn Susnag
ella bod yna fwy o sglein i'r sdwff Susnag, ond ma' yna fwy o enaid a hwyl ar y records Cymraeg
a dydi bandia Cymraeg ddim yn ei chael yn 'haws' ychwaith. bybyl bach ydi'r SRG - sesiwn C2, gig Clwb Ifor - mae yna lot mwy o sgeptigs pan mae'n dod i ganu'n Gymraeg - felly mae unrhyw un sy'n dewis canu'n Gymraeg yn mynd fewn am
minority sport, lle ma'r rhan fwyaf o Gymry Cymraeg (heb son am di-Gym) yn fwy na pharod i wawdio
iawn ma band Cymraeg yn cael mynd ar teli bob hyn a hyn, ond fel arall ma'r ymdrech i ddenu bobol i brynu CD's ne fynychu gigs yn fwy nag ydio i fandia Susnag