Getto Diwylliannol yn ol Rhys Mwyn

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Re: Getto Diwylliannol yn ol Rhys Mwyn

Postiogan Darth Sgonsan » Iau 08 Maw 2007 11:59 am

Blewyn a ddywedodd: be fysa yn ei le os na fysa na S4C ? Pa fath o ddiwydiant diwylliant mae S4C wedi dadleoli ?


cwestiwn diddorol. Heb S4C, mi fasa safon athrawon/gweinidogion yn uwch - y swyddi yna roedd Cymry Cymraeg efo hanner bren yn arfer neud cyn 1982.

o ran diwylliant, fysa pobol dal i fynd i shed i gael adloniant - Noson Lawen heb y camras.
fysa gen ti amball gwmni drama amatur (mae gwaith teli wedi galluogi rhei fel Bryn Fon i neud theatr proffesiynol - tasa Bryn Fon yn goro codi i wagio buns am ei fara menyn, fysa gyno fo'r mynadd i fynd adra wedyn i ddysgu leins?)

ond heb S4C, fydda pawb yn derbyn fersiwn Llundain o fywyd Prydeinig ar eu sgrins.
fysa llai fyth o bobol yn ymwybodol bo nhw'n byw mewn gwlad efo iaith a hunaniaith ei hun
Darth Sgonsan
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 736
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 9:43 am
Lleoliad: yn pesgi ar farwolaeth mamwlad dlawd

Postiogan Blewyn » Iau 08 Maw 2007 2:58 pm

T'ydy'r ffaith fod rhywbeth mewn bod ddim yn golygu na fysa'na rywbeth tebyg - ond gwahanol - mewn bod os fysa fo ddim. Os na fysa Mr Ford wedi adeiladu ceir, mi fysa rhywun arall wedi gwneud, neu bobl eraill wedi gwerthu mwy.

Pa fath o ddiwydiant annibynnol fysa'n llenwi gwacter S4C, os na fysa fo mewn bod ?
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan Madrwyddygryf » Iau 08 Maw 2007 4:03 pm

Wel cytunaf be mae rhywun fel Rhys Mwyn yn dweud. Mae 'na Ghetto diwylliannol yn digwydd ond mae o fwy i wneud gyda Phrydeinwyr yn cau eu hunain mewn i ghetto diwylliannol iaith-Saesneg.

Rowch o fel hyn. Pan ryddhaodd Shakira albwm Sbaeneg, dim ond 10,000 o gopïau a werthwyd yma ym Mhrydain mewn cymhariaeth a miliynau ar draws byd. Mae'n siŵr bod ei sengl saesneg 'Nid yw'n gluniau yn deud clwyddau' wedi gwerthu 10 gwaith hynny.

Pryd y tro diwethaf weloch chi gyfres teledu o'r iaith tramor yn cael ei ddarlledu ar y teledu ? Mae 'na ddwywaith gymaint o raglenni Americanaidd yn cael eu darlledu mewn un noson ar sianel 4 na rhaglen iaith tramor a cheir eu darlledu ar yr un sianel mewn 5 mlynedd.Hyd yn oed pryd mae rhywbeth fel Heimat neu Das Boot yn chan mil gwell na Lost neu Desperate Housewives.

Mae hyn yn llawer mwy gwir pryd mae'n dod i ffilmiau. Mae gwledydd di-Saesneg yn gallu cynhyrchu ffilmiau gwych ond maen nhw dim ond yn cyfrif am 27% o'r cynnyrch sydd ar gael mewn sinemâu yn y wlad yma.

Yn olaf, dim ond 3% o lyfrau sydd yn cael eu gwerthu yn y wlad yma yw llyfrau wedi ei gyfieithu o'r iaith dramor.

Fy mhwynt i, nad ni sydd ar fai fan yma os di bobl ddim eisiau gwybod am ddiwylliant Cymraeg. Snobyddiaeth ac rhagfarniaeth sydd yn bodoli yn y wlad yma am unrhyw ddiwylliant sydd ddim ar gael trwy gyfrwng y Saesneg sydd ar fai.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Nôl

Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron