Tudalen 1 o 1

Caerdydd -Rhywbeth Newydd/Gwahanol

PostioPostiwyd: Maw 27 Chw 2007 8:52 am
gan docito
Dwi ffansi gwneud rhywbeth gwahanol heno. Mae gen i amser spar i wneud rhywbeth diddorol ond yr unig beth alla'i feddwl ei wneud yw'r sinema. Ma'r tywydd yn rhy wael i wneud unrhyw beth tu allan a'r mwyafrif o amgueddfeydd a galeris yn cau yn y min nos.
Unrhyw awrgymiadau????

PostioPostiwyd: Maw 27 Chw 2007 9:35 am
gan SbecsPeledrX
Beth am fynd i wylio Caerdydd vs TNS?
Neu fynd i'r talwrn poker yn Les Croupier?

PostioPostiwyd: Maw 27 Chw 2007 10:28 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist

PostioPostiwyd: Maw 27 Chw 2007 11:18 am
gan Sili
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Crazy Kiln! :lol:


Dwi'n byw ar y stryd gwerbyn fama, ydio'n anghywir mod i'n cal yrjis i fynd yno bob tro dwi'n pasio? :wps:

Techniquest? Er fod o di mynd lawr allt yn ddiweddar, esi a'r cariad yno tua'r 4 pan odd y lle yn hollol wag heb r'un plentyn ysgol mewn golwg a gafo ni hwyl i'r brenin :D

PostioPostiwyd: Maw 27 Chw 2007 4:40 pm
gan Chwadan
Sili a ddywedodd:
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Crazy Kiln! :lol:


Dwi'n byw ar y stryd gwerbyn fama, ydio'n anghywir mod i'n cal yrjis i fynd yno bob tro dwi'n pasio? :wps:

Dwi'n byw rownd gornel ac yn cael yrjis hefyd :?

PostioPostiwyd: Maw 27 Chw 2007 5:38 pm
gan khmer hun
Drama fach yn y Chapter? Acqua Nerogan Meredydd Barker yn swnio'n dda.